Taliadau Glastir 2023 i ddechrau ar Ragfyr 1af

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd taliadau hawliadau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig yn dechrau o 1af Rhagfyr 2023.

Mae’r taliadau’n digwydd yn gynt eleni er mwyn gwneud y gorau o wariant yr UE, a bydd ffermwyr gyda chontractau Glastir sydd wedi bodloni’r gofynion cymhwyso, ac wedi darparu’r holl ddogfennau ategol priodol, yn dechrau derbyn taliadau o’r dyddiad hwn.

Bydd yr holl gontractau Glastir yn dod i ben ar 31ain Rhagfyr 2023.