Ffermwyr yn ddig am wallau a thaliadau cynllun Cynefin Cymru

Mae aelodau Undeb Amaethwyr Cymru ledled Cymru wedi lleisio eu dicter mawr am y cynllun Cynefin Cymru newydd, ar ôl i gyfrifiadau ddatgelu gostyngiadau enfawr yn y taliadau iawndal y byddent yn eu derbyn am ymgymryd â gwaith amgylcheddol, ac ar ôl dod ar draws gwallau a chamgymeriadau mawr yn y mapiau fferm a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.

Mae staff a swyddogion UAC wedi siarad efo aelodau ar draws Cymru mewn cyfarfodydd ac yn ystod y broses o gynorthwyo aelodau efo’u ceisiadau, ac mae ‘na ddicter go iawn am y cynllun hwn.

Cafodd y cynllun ei wthio ar y diwydiant ar yr unfed awr ar ddeg fel cynnig terfynol, ac er bod nifer fach o welliannau wedi’u gwneud mewn ymateb i alwadau gan UAC, yn sicr nid yw wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad â’r diwydiant ffermio, fel y dylai fod.

Mae UAC wedi rhoi rhybuddion clir am y cynllun ers ei gyhoeddi yng Ngorffennaf fel un i ddisodli Glastir, ac mae’r rhybuddion hyn wedi dod yn wir.

Mae UAC hefyd yn bryderus nad oes unrhyw eglurder o hyd am y gyllideb ar gyfer y cynllun, a bod y cyfraddau talu’n sylweddol is na’r hyn y byddai ffermwyr wedi’i dderbyn dan gynlluniau Glastir.

Mae nifer o aelodau UAC yn dweud nad ydyn nhw am ymuno â’r cynllun am fod yr incwm a gollir a’r cyfraddau talu am waith a gwblheir yn sylweddol is na’u gwerth go iawn, gan olygu nad yw’r cynllun yn un sy’n gweithio’n ariannol nac yn un y gellir ei reoli yn y byd go iawn.

Mae rhai aelodau wedi bod yn rhan o gynlluniau amaeth-amgylcheddol am hyd at 30 mlynedd ac eto nid ydynt yn bwriadu gwneud cais, am fod y cyfraddau’n is na’r hyn oedden nhw ddegawdau yn ôl. Does bosib bod hynny’n mynd yn groes i beth ddylai amcanion Llywodraeth Cymru fod ar gyfer cynllun cynefin?

Mae UAC bob amser wedi bod yn hapus ac yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru pan ddaw hi’n fater o ddylunio polisïau penodol ar gyfer Cymru, ac mae’r penderfyniad i ddylunio’r cynllun heb unrhyw fewnbwn gan yr undebau, a’i gyhoeddi fel cytundeb gorffenedig wythnosau’n unig cyn ei lansio yn dangos peryglon peidio â gwrando ar y diwydiant.

Mae staff UAC wedi derbyn hyfforddiant ac maent ar gael i helpu aelodau, ond hyd yn oed gyda’r cymorth ychwanegol a ddarperir gan UAC mae’r rhwystrau rhag cael mynediad at y cynllun hwn, ynghyd â’r taliadau iawndal sylweddol is am ymgymryd â gweithgareddau a fernir yn fuddiol i’r amgylchedd, yn golygu nad yw’r cynllun yn un ymarferol na fforddiadwy i nifer o aelodau UAC.

Rhaid i’r Gweinidog felly adolygu’r cynllun hwn ar frys oherwydd mi fydd yn siomi miloedd o ffermwyr ar ei ffurf bresennol.

Rhaid dysgu gwersi yn nhermau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) sydd i’w lansio y flwyddyn nesaf.

Mae UAC yn gwrthwynebu nifer o ddyheadau’r SFS, ond mae’n cefnogi rhai eraill. Ond y naill ffordd neu’r llall, rhaid i’r cynllun fod yn un ymarferol o’r cychwyn cyntaf, gan gynnwys yn nhermau’r cyfnod ymgeisio.

O ystyried nad yw’r cynllun cynefin hwn mor gymhleth o bell ffordd â’r cynigion SFS presennol, rhai dysgu gwersi, a rhaid dal ati i ddylunio cynigion yr SFS gyda’r rhain mewn golwg, er mwyn ceisio osgoi problemau mwy o lawer y flwyddyn nesaf.

Mae’r undebau ffermio yng Nghymru wedi cynnig ar y cyd yr hyn a fernir ganddynt yn gynllun ymarferol, y gellid ei gyflwyno dros gyfnod pontio mewn ffordd a fyddai’n osgoi problemau o’r fath, ac mae angen datblygu cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gyda hwn mewn golwg.