UAC yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i derfyn nitrogen uwch

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r ffaith bod cyflwyno terfyn nitrogen fferm gyfan wedi’i ohirio am y trydydd tro, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i derfyn nitrogen uwch ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Cadarnhaodd cyhoeddiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, y bydd y terfyn nitrogen fferm gyfan o 170kg yr hectar ar gyfer tail da byw yn cael ei ohirio tan 1af Ionawr

, ochr yn ochr â chynlluniau i gyflwyno gwelliannau i’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) i weithredu Dull Rheoli Maethynnau Uwch o 1af Ionawr i 31ain Rhagfyr 2024.

Mae UAC yn croesawu’r ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru i gyflwyno terfyn nitrogen uwch ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn dilyn ymgynghoriad a dderbyniodd mwy na 1,500 o ymatebion.

Yn ymateb UAC amlinellwyd sut y gallai’r cynigion ar gyfer cynllun i ganiatáu terfyn uwch weithio fel rhwyd diogelwch tymor byr sylweddol i nifer o ffermwyr yng Nghymru sydd eisoes uwchlaw’r terfyn o 170kg.

Fodd bynnag, mynegodd UAC bryderon mawr hefyd mewn perthynas â’r meini prawf a’r gofynion arfaethedig, a sut y byddai hyn, yn y bôn, yn pennu faint o ffermydd fyddai’n gymwys ar gyfer cynllun o’r fath.

Cadarnhaodd y Gweinidog, ble mae cynlluniau rheoli maethynnau ar gyfer 2024 yn dangos eu bod yn debygol o fod yn uwch na’r terfyn o 170kg, rhaid i ffermwyr hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn 31ain Mawrth, a chymryd camau ychwanegol yn unol â’r amodau trwyddedu arfaethedig yr ymgynghorwyd yn eu cylch.

Er bod UAC yn croesawu’r dull symlach hwn, sy’n osgoi proses ymgeisio fiwrocrataidd ac ansicrwydd pellach i’r rheiny sydd am ymgeisio, mae UAC bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu canllawiau clir cyn gynted â phosib, yn gosod y camau pellach y bydd angen i ffermwyr eu cymryd a’r dystiolaeth y bydd disgwyl iddynt ei darparu.  

Mae’r angen i ohirio’r terfyn nitrogen fferm gyfan am y trydydd tro, er yn rhywbeth i’w groesawu, yn arwydd o’r diffyg meddwl oedd y tu ôl i’r rheoliadau a gyflwynwyd yn y lle cyntaf.

Mae UAC yn taer obeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n dechrau ar y broses o adolygu’r rheoliadau yn fuan, gan gynnwys ystyried terfyn nitrogen uwch parhaol a dulliau amgen i’r cyfnodau cau, fel bod modd darparu’r sector amaethyddol yng Nghymru ag eglurder hirdymor.