Cludwr Llaeth yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr

Yn ôl yr adroddiadau, mae cwmni cludo Lloyd Fraser, sydd wedi’i leoli yn Rugby, wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ac wedi colli ei drwydded i weithredu.

Wedi’i ddisgrifio fel un o gludwyr llaeth swmp mwyaf y DU, gyda safleoedd yn Ninbych, Llanymynech a Phont-y-pŵl, mi fydd methiant y busnes yn effeithio ar ardaloedd ar draws gogledd a dwyrain Cymru, a thros y ffin yn Lloegr. 

Daeth adroddiadau i law am fethiant y cludwr i gasglu llaeth ar 22ain Medi, gyda rhai sy’n cyflenwi llaeth i Arla, Muller, Meadow ac eraill yn cael eu heffeithio.

Mae Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth UAC o’r farn ei bod hi’n hanfodol bod mesurau amgen ar gyfer casglu llaeth yn cael eu sefydlu’n ddi-oed, i leihau effaith methiant y cludwr, Lloyd Fraser i gasglu. Mae ffermwyr llaeth eisoes yn mynd trwy gyfnod cythryblus o ganlyniad i brisiau llaeth gwan, a bydd methiant i gasglu yn ychwanegu at yr anawsterau ariannol hyn ymhellach.