Crynodeb o’r Newyddion Medi 2023

Gohirio gwiriadau ffin ar fewnforion am y pumed tro

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod gwiriadau ffin ar fwydydd a chynnyrch ffres ar ôl Brexit wedi’u gohirio am y pumed tro.

Tra bod gwiriadau trylwyr yn eu lle ers 1af Ionawr 2021 ar fwydydd a allforir o’r DU i’r UE, y bwriad oedd cyflwyno gwiriadau tebyg ar gynnyrch bwyd a fewnforir o’r UE o 1af Ebrill 2021.

Mae’r oedi diweddaraf yn golygu y bydd y gwiriadau ffisegol a oedd i ddechrau yn Ionawr 2024 yn cael eu gwthio’n ôl erbyn hyn i Ebrill 2024.

 

Awstralia am gael cyfran o farchnad Cig Eidion a Chig Oen y DU

Mae cynhyrchwyr cig eidion a chig oen Awstralia am gael cyfran o farchnad y DU gan ddefnyddio’u brand Aussie Beef & Lamb (ABL).

Mae’r brand yn lansio yn y DU yn dilyn y Cytundeb Masnach Rydd a arwyddwyd rhwng y DU ac Awstralia yn 2021. Defnyddir y brand Aussie Beef & Lamb i hyrwyddo cig coch Awstralia ar draws marchnadoedd allforio, gan gynrychioli cig eidion, cig oen, cig gafr a chig llo.

Daeth cytundeb masnach rydd y DU-Awstralia i rym ar 31 Mai eleni. Mae’r mewnforion cig eidion di-dariff i’r DU yn 20,616t fesul blwyddyn galendr ar hyn o bryd, a bydd yn cynyddu i 110t y flwyddyn erbyn 2033.

 

Cynllun Cynefin Cymru i agor ar 29ain Medi

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cynllun Cynefin Cymru’n agor ar gyfer ceisiadau ar 29ain Medi, gyda chontractau’n dechrau ar 1af Ionawr 2024.

Mae’r cynllun newydd wedi’i gyflwyno fel cynllun pontio amaeth-amgylcheddol ar ôl i gynllun Glastir ddod i ben yn Rhagfyr 2023. Nod y cynllun yw cynnal a chynyddu’r arwynebedd o dir cynefin sydd o dan fesurau rheoli ledled Cymru, ac mi fydd ar gael i bob ffermwr cymwys, gan gynnwys ffermwyr Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig.

Nid yw’r gyllideb ar gyfer y cynllun wedi’i chadarnhau eto, ond mi fydd y rhan fwyaf o ddeiliaid contractau Glastir sy’n ymuno â’r cynllun yn gweld gostyngiadau sylweddol yn eu taliadau blynyddol yn sgil y gwahaniaeth rhwng strwythur y ddau gynllun.