Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 – Gofynion o 1af Ionawr 2023

Cynlluniau Rheoli Maethynnau

(Rheoliadau 6 a 7)

Bydd angen i ffermwyr gyfrifo’r meintiau gofynnol o nitrogen ar gyfer pob cnwd, gan gynnwys glaswelltir.  Gan ddefnyddio gweithlyfr, rhaid llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen bob blwyddyn. Rhaid i’r Cynllun Rheoli Maethynnau  hwn ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • cyfeirnod cae
  • arwynebedd y cae 
  • math o gnwd a dyddiau hau 
  • math o bridd 
  • cnwd blaenorol 
  • y cyflenwad nitrogen yn y pridd a’r dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r ffigur hwn 
  • y mis y rhagwelir y caiff y cnwd ei blannu 
  • y cynnyrch disgwyliedig (os yw’n dir âr) 
  • y maint optimwm o nitrogen sydd ei angen ar y cnwd gan ystyried y cyflenwad nitrogen yn y pridd (CNP) 
  • arwynebedd lle bydd y tail organig yn cael ei daenu 
  •  faint o dail organig sydd i’w daenu 
  •  dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (mis) 
  •  math o dail organig 
  •  cyfanswm cynnwys Nitrogen yn y tail organig a faint sydd ar gael i’r cnwd     (Rheoliad 9) 
  •  faint o wrtaith a weithgynhyrchwyd sydd ei angen 
  •  cyfanswm y nitrogen a daenir ar ddaliad

 

Mapiau risg

(Rheoliad 11)

  • rhaid i fapiau risg ddangos pob cae, ynghyd â’i arwynebedd mewn hectarau; a’r holl ddyfroedd wyneb
  • unrhyw dyllau turio, ffynhonnau neu bydewau sydd ar y daliad neu sydd o fewn 50 metr i ffin y daliad 
  • ardaloedd â phridd tywodlyd neu bridd tenau
  • tir sydd ar oleddf o fwy na 12°
  • tir sydd o fewn 10 metr o ddyfroedd wyneb; draeniau tir (6m os yn defnyddio cyfarpar manwl)
  • tir sydd o fewn 50 metr o dwll turio, ffynnon neu bydew
  • safleoedd sy’n addas ar gyfer tomenni dros dro mewn caeau
  • tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel 

 

Terfynau tail da byw

(Rheoliadau 4,5 a 10)

Bydd gofyn i ffermwyr osod terfyn ar faint y tail da byw maent yn ei daenu ar ardaloedd o’r fferm a ddynodwyd fel ardaloedd taenadwy, hyd at y terfynau canlynol:

  • Ni ddylai’r cyfanswm Nitrogen o dail (anifeiliaid neu daenu) ar y dalied fod yn uwch na 170kg/ha. Gohiriwyd tan Ebrill 2023.
  • Ni chaiff unrhyw ardal fod â mwy na 250kg Nitrogen/ha o dail organig.

 

Ni ddylai’r cyfanswm Nitrogen o wrteithiau sydd wedi’u gweithgynhyrchu, a’r hyn sydd ar gael o dail organig fod yn uwch na’r terfyn a osodwyd ar gyfer cnydau unigol.  Ceir rhestr o enghreifftiau o rai cnydau mwy cyffredin isod.  Mae rhai lwfansau gwrtaith ychwanegol ar gael ar gyfer rhai cnydau a dyfir dan amodau arbennig e.e. caniateir 40kg ychwanegol o Nitrogen yr hectar ar gyfer glaswellt a dorrir o leiaf deirgwaith y flwyddyn.

India-corn porthiant  150 kg N/ha

Glaswellt              300 kg N/ha

Tatws         270 kg N/ha 

Gwenith a heuir yn yr Hydref 

neu’n gynnar yn y gaeaf 220 kg N/ha

 

Mesurau pellach

  • Rhaid taenu slyri gan ddefnyddio cyfarpar gwasgaru gyda thaflwybr sy’n is na 4 metr o’r ddaear (Rheoliad 15)
  • Ni ddylid lleoli safleoedd  tomenni dros dro ar dir dyfrlawn, o fewn 50 metr o dwll turio, ffynnon neu bydew neu o fewn 10 metr o ddŵr wyneb.  Ni chaiff fod yn yr un lleoliad am fwy na 12 mis na chael ei lleoli yn yr un man ag un gynharach a ddefnyddiwyd o fewn dwy flynedd. Ceir rheolau pellach ar ddefnyddio uwchbridd a lleoli tomenni yn unol â’r mapiau risg (Rheoliad 27)
  • Cofnodi maint daliad (Rheoliad 33)
  • Rhaid cadw cofnod o faint o dail a gynhyrchwyd gan y nifer o stoc yn ystod y cyfnod storio.  Rhaid cofnodi anifeiliaid sy’n dod i’r daliad am y tro cyntaf o fewn un mis, a  rhaid cofnodi newidiadau i’r capasiti storio o fewn un wythnos (Rheoliad 34)
  • Cyn 30 Ebrill, rhaid cwblhau cofnod o nifer yr anifeiliaid a gadwyd dan do yn ystod y cyfnod storio blaenorol (Rheoliad 35)
  • Cofnodi maint y nitrogen sydd ar gael yn y tail a gynhyrchwyd gan anifeiliaid (Rheoliad 9); nifer a chategori’r anifeiliaid ar y daliad a nifer y diwrnodau a dreuliwyd gan bob anifail ar y daliad cyn 30 Ebrill bob blwyddyn (Rheoliad 36)
  • Cofnodi arwynebedd, maint, dyddiadau, dulliau taenu, cyfanswm cynnwys N, argaeledd cnwd tail organig o fewn un wythnos o daenu (Rheoliad 40)
  • Cofnodi dyddiadau taenu gwrtaith sydd wedi’i weithgynhyrchu a meintiau’r N a daenwyd o fewn un wythnos o daenu, oni bai bod 80% o’r fferm yn laswelltir, a bod yr N o dail organig yn is na 100kg/ha a’r cyfanswm N o wrtaith sydd wedi’i weithgynhrychu yn is na 90kg/ha (Rheoliad 40)
  • Wrth ddod â, neu anfon tail da byw o’r daliad, rhaid cofnodi math, maint, dyddiad, cynnwys N ac enw a chyfeiriad y prynwr/derbynnydd (Rheoliad 37) 
  • Rhaid i’r sawl sydd wedi taenu gwrtaith N gofnodi maint y cnwd âr o fewn un wythnos o’i gynaeafu.  Cyn 30 Ebrill, rhaid i’r ffermwr gofnodi sut cafodd y glaswelltir ei reoli yn y flwyddyn flaenorol (Rheoliad 41)

 

Adnoddau defnyddiol

Er mwyn helpu ffermwyr i ddeall a chydymffurfio â’r rheoliadau newydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau canllaw ar ei gwefan

  • Canllawiau ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr
  • Cwestiynau cyffredin
  • Gweithlyfr fferm
  • Crynodeb o’r mesurau ac amserlen
  • Tenantir – cwestiynau cyffredin

 

Mae SMR 1 – Diogelu Dŵr – Taflen Ffeithiau a Safonau Dilysadwy hefyd wedi’u diweddaru.

Mae UAC am atgoffa aelodau bod 10% o ostyngiad ar gael oddi ar ffioedd ymgynghori Kebek – Gwasanaethau Amgylcheddol Gwledig, sydd ar gael ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Bydd UAC yn parhau i roi gwybod i aelodau am unrhyw ddatblygiadau o ran newidiadau neu ganllawiau pellach mewn perthynas â’r rheoliadau hyn.  Byddwn hefyd yn ymateb i’r ymgynghoriad ar y terfyn nitrogen fferm gyfan ac anogwn yr holl aelodau i wneud yr un peth.

Bella Casino is an online casino that offers a fun and exciting gaming experience for players from all over the world.