Ymrwymiad o £32 miliwn i gynlluniau Coetir

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn neilltuo £32 miliwn ar gyfer cynlluniau coetir dros y 3 blynedd nesaf.

Y tri chynllun fydd:-

Grantiau Bach – Cynllun Creu Coetir

Datblygwyd y cynllun hwn fel proses gyflym a hawdd ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr sydd am blannu llai na 2 hectar o goed ar dir sydd: 

  • wedi’i wella’n amaethyddol, neu
  • o werth amgylcheddol isel 
  • yr arwynebedd lleiaf ar gyfer plannu coed newydd i fod yn gymwys ar gyfer cymorth  Grantiau Bach – Creu Coetir yw 0.1ha
  • yr arwynebedd uchaf fesul cais yw 1.99ha o goed newydd, all gynnwys blociau o goed gydag arwynebedd isaf o 0.1ha

Mae’r prif nodweddion yn cynnwys: 

  • does dim angen cynllun creu coetir wedi’i ddilysu
  • ni chollir unrhyw daliad BPS
  • ffensio ar gyfradd uwch o £5.56/metr 
  • 12 mlynedd o daliadau cynnal a chadw a phremiwm

Mae cyllid ar gael ar gyfer y canlynol:

  • plannu coed, ffensio a gatiau  
  • plannu coed cysgodi, ar hyd ymyl cyrsiau dŵr ac yng nghorneli caeau/caeau bach 
  • plannu at ddefnydd amrywiol, er enghraifft cysgod ar gyfer stoc, bioamrywiaeth a thanwydd coed
  • Bydd nifer o ffenestri ymgeisio yn ystod y flwyddyn

Ar gyfer plannu ardaloedd bach o goed dan 2 hectar.  Edrychwch ar y map Grantiau Bach – Cyfleoedd Coetir i weld a yw eich ardal arfaethedig yn gymwys.

Bydd y ffenestr Mynegi Diddordeb ar agor o 13eg Chwefror – 24ain Mawrth 2023.  Bydd ail ffenestr ar agor o 22ain Mai – 21ain Awst 2023.

Am fwy o wybodaeth yma 

 

Cynllun Cynllunio Creu Coetir 

I gynorthwyo tirfeddianwyr sydd am greu coetiroedd, ac sydd am wneud cais am gyllid, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir. 

Mae’r cynllun hwn yn darparu grant o rhwng £1,000 a £5,000 ar gyfer: 

  • cyngor proffesiynol gan Gynllunydd Coetir Cofrestredig 
  • datblygu cynllun creu coetir sy’n cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU 

Bydd y ffenestr ymgeisio yn agor ar 28ain Chwefror 2023.  Bydd y cynllun ar agor trwy gydol y flwyddyn (yn amodol ar gyllideb) a bydd ceisiadau’n cael eu dethol bob 6 wythnos.  Bydd cyllid ar gael i greu coetir, yn amodol ar gyllideb, gyda ffenestri’n agor bob 3 mis o hynny ymlaen.

Am fwy o wybodaeth yma 

 

Grant Creu Coetir 

I’r rhai sydd â diddordeb mewn creu coetiroedd mwy o faint.

Mae’r cynllun hwn yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer:

  • plannu coed, ffensio a gatiau 
  • ffensio ar gyfradd uwch o 5.56/metr 
  • taliadau cynnal a chadw a phremiwm am 12 mlynedd 
  • ni chollir unrhyw daliad BPS 

Mae cyllid ar gael ar gyfer Cynllun Creu Coetir, sy’n ofynnol cyn cyflwyno cais drwy’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir.

Ffenestr mynegi diddordeb: 13eg Chwefror – 24ain Mawrth 2023.

Bydd ffenestr ar gyfer ceisiadau pellach yn agor ar 22ain Mai ac yn cau ar 21ain Awst 2023.

Am fwy o wybodaeth yma