UAC yn lansio galwad i weithredu ar fasnachu carbon

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi lansio galwad i weithredu ar fasnachu carbon, i sicrhau bod teuluoedd ffermio yng Nghymru’n rhan o’r ateb i gyrraedd Sero Net, yn hytrach na’u bod yn colli i chwaraewyr pwerus yn y gêm gwrthbwyso carbon.

Er mwyn cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5ºC uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol, mae gwledydd a chwmnïau ar draws y byd wedi bod ar ras i osod eu haddunedau neu dargedau ‘sero net’ eu hunain.

Mae hyn wedi arwain at don fawr o unigolion a busnesau’n ceisio gwrthbwyso eu hallyriadau carbon drwy’r Farchnad Garbon Wirfoddol. O ganlyniad, mae nifer cynyddol o ffermydd yng Nghymru’n cael eu prynu gan gwmnïau er mwyn plannu coed i wrthbwyso eu hallyriadau eu hunain, neu i werthu’r credydau carbon cysylltiedig yn y dyfodol.

I fynd i’r afael â’r pryderon hyn, mae UAC wedi llunio rhestr o 10 argymhelliad:

  • Dylai’r gwrthbwyso ategu yn hytrach na chymryd lle’r gostyngiad mewn allyriadau
  • Ni ddylai tir ffemio yng Nghymru ddod yn faes dympio i ddiwydiannau a gwledydd eraill sydd am wrthbwyso’u hallyriadau
  • Cymunedau, nid corfforaethau ddylai reoli tir Cymru
  • Ni ddylai gwerthu credydau carbon o dir ffermio danseilio gallu busnesau fferm i ddod yn Sero Net eu hunain yn y dyfodol
  • Mae angen llywodraethu effeithiol i sicrhau bod y Farchnad Garbon Wirfoddol yn cael ei rheoleiddio
  • Dylai contractau fod yn gwbl glir a dylent ddiogelu’r perchennog tir
  • Dylid cydnabod a gwobrwyo mathau eraill o ddefnydd tir (yn hytrach na choetiroedd newydd yn unig)
  • Mae angen Cod Carbon Pridd unigol
  • Dylai carboniaduron gael eu hachredu a’u safoni
  • Mae angen cydnabod Newid Tir, Newid Defnydd Tir a Choedwigaeth (LULUCF) (dal a storio ar ffermydd) a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ffermydd o fewn allyriadau fferm

Mae UAC yn annog Llywodraeth Cymru a rheolyddion y Farchnad Garbon Wirfoddol i roi ystyriaeth i’r pwyntiau gweithredu hyn. Rhaid datblygu polisi ar gyfer Cymru, i warchod, cydnabod a gwobrwyo gallu teuluoedd ffermio yng Nghymru i gyfrannu at y storfa garbon, ochr yn ochr â’r holl fuddiannau economaidd, amgylcheddol a diwylliannol eraill mae teuluoedd ffermio yn eu darparu.

Gellir lawrlwytho copi llawn o’r cynllun gweithredu yma: https://www.fuw.org.uk/images/CarbonTrading-Cymraeg.pdf