Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi argymhellion i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hargymhellion i gynyddu maint yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru, yn dilyn ymarfer ‘at wraidd y mater’.

Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru darged o gwrdd â 70 y cant o’r galw am drydan yng Nghymru o ffynonellau trydan adnewyddadwy Cymru erbyn 2030. Erbyn 2019, roedd 51 y cant o’r trydan a ddefnyddiwyd yng Nghymru wedi’i gynnyrchu o ffynonellau ynni adnewyddadwy, i fyny o 19 y cant yn 2014, a 50 y cant yn 2018.

Fodd bynnag, mae diddymu Tariffau Cyflenwi Trydan yn 2019 wedi arafu’n sylweddol y buddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy ar ffermydd, ac o ganlyniad wedi gwanhau’r buddiannau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â mentrau preifat, ac wedi lleihau’r momentwm i gyrraedd targed 2030 Llywodraeth Cymru.

Mae ei hadroddiad diweddaraf yn gosod 21 o argymhellion cyffredinol ar Strategaeth; Grid; Cydsynio, trwyddedu a threfniadau cynghori ategol; Cyllid; Cyfleoedd i gynyddu Ynni Cymunedol a Lleol yng Nghymru; Cyfleoedd i wneud y mwyaf o Werth Economaidd a Chymdeithasol yng Nghymru; ac Arloesedd.

Mae UAC yn croesawu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i weithio gydag Ofgem a Llywodraeth y DU a chanolbwyntio ar arloesedd – galwadau a wnaed gan UAC yn ei Maniffesto ar gyfer Etholiad Senedd Llywodraeth Cymru 2021.

Fodd bynnag, cafodd UAC drafodaethau â’r Gweindiog Newid Hinsawdd, Julie James ym mis Medi, ac felly mae’n siom gweld bod yr adroddiad yn canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar ffynonellau ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol, heb unrhyw sôn am gymell neu gefnogi mentrau preifat ar ffermydd.

Mae’r Undeb yn llwyr gefnogi datblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy priodol ar ffermydd, ac mae o’r farn bod gan ffermydd Cymru ran ganolog i’w chwarae o ran cyrraedd targedau Cymru, cyn belled â bod y cymorth iawn ar gael.