Gwobr UAC - Cymdeithas Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig yn cael ei gyflwyno i Bennaeth Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm Cymru

[caption id="attachment_7235" align="aligncenter" width="193"]O’r chwith, Llywydd y Sioe Laeth Brian Thomas, Rita Jones a Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas. O’r chwith, Llywydd y Sioe Laeth Brian Thomas, Rita Jones a Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas.[/caption]

Mae Rita Jones, Pennaeth Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm Cymru yn adran Amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru yng Nghaerfyrddin wedi cael ei chydnabod am ei gwasanaethau i amaethyddiaeth yng Nghaerfyrddin gyda gwobr Undeb Amaethwyr Cymru - Cymdeithas Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters: “Mae Rita’n uchel iawn ei pharch ymhlith ffermwyr a phawb sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth yn gyffredinol.

“Mae ei chyfraniad, gwybodaeth a chymorth i ffermwyr Cymru dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy.  Mae bob amser yn barod ei chymorth, ac fel merch i ffermwr, mae’n deall y sialensiau sy’n wynebu ffermwyr.  Mae Rita’n llwyr haeddiannol o’r wobr yma.”

Mae Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm Llywodraeth Cymru yn darparu arweiniad a chyngor i ffermwyr ar reolau newydd a gafodd ei ddatblygu o gynllun peilot a gafodd ei sefydlu gan Rita Jones yn 2001 yn sgil argyfwng Clwy’r Traed a’r Genau.

Ers hynny, mae Rita wedi cynnig gwasanaeth amhrisiadwy i ffermwyr lleol, yn enwedig gyda chynorthwyo i gadw cofnodion a llenwi ffurflenni a’r rheolau sy’n gysylltiedig gyda’r Cynllun Taliad Sengl a gyflwynwyd yn 2015.

Mae Rita wedi chwarae rhan allweddol wrth ddod a Llywodraeth Cymru a’r diwydiant amaethyddol ynghyd ac yn parhau i fod yn allweddol gyda chynorthwyo ffermwyr yn Sir Gaerfyrddin ac ar draws Cymru.

Yn wreiddiol o Gynwyl Elfed, Rita oedd aelod sefydlu ac ysgrifennydd cyntaf Clwb Ffermwyr Ifanc Cynwyl Elfed.  Mae ganddi gysylltiad hir gyda’r mudiad yng Nghaerfyrddin ac wedi cynorthwyo nifer o aelodau CFfI lleol gyda pharatoi tuag at gystadlaethau siarad cyhoeddus dros y blynyddoedd.

Hefyd, derbyniodd Rita Jones yr MBE yn rhestr anrhydeddau penblwydd y Frenhines am wasanaethau i amaethyddiaeth yng Nghymru yn 2006.  Yn 2008, cafodd ei gwneud yn aelod cyswllt o’r Gymdeithas Amaethyddol Brenhinol ac yn Gymrawd am ei chyfraniad i’r diwydiant amaethyddol yn 2013.