UAC Meirionnydd yn trafod #AmaethAmByth gydag AS Meirion Dwyfor

[caption id="attachment_7226" align="aligncenter" width="300"]O’r chwith, Sion Evans, Liz Saville Roberts AS, Hywel Evans a Cadeirydd Sirol Meirionnydd Euros Puw. O’r chwith, Sion Evans, Liz Saville Roberts AS, Hywel Evans a Cadeirydd Sirol Meirionnydd Euros Puw.[/caption]

Mae cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru wedi cynnal ymweliad fferm i drafod #AmaethAmByth gydag AS Meirion Dwyfor Liz Saville Roberts.

Cynhaliwyd yr ymweliad ar ddydd Gwener, Tachwedd 4 ym Marchlyn, Pennal ger Machynlleth gan aelodau UAC Sion Evans a’i rieni Hywel a Ceinwen Evans.

Mae’r fferm yn ymestyn i 360 erw, y cyfan yn dir wedi’i wella gydag oddeutu 25 erw’n cael ei gadw’n silwair.  Mae’r stoc yn cynnwys 25 o wartheg sugno a 550 o ddefaid, defaid Mynydd Cymreig yn bennaf o fewn ddiadell annibynnol.

Ymunodd y teulu a’r cynllun Glastir Sylfaenol yn 2014 ac maent yn gweld ffermio a chadwraeth yn mynd llaw yn llaw.

Maent wedi arallgyfeirio i dwristiaeth ac wedi adnewyddu adeiladau’r fferm yn llety Gwely a Brecwast.

Yn siarad am ochr arallgyfeirio’r busnes, dywedodd Sion Evans: “Mae’r incwm o arallgyfeirio yn hanfodol pan nad yw ffermio’n unig yn broffidiol.  I lawer mae’n hollol hanfodol i gael ail a thrydydd incwm i atgyfnerthu’r busnes.  Mae arallgyfeirio i dwristiaeth wedi ein cynnal ni ac yn cadw’r strwythur o fferm deuluol sy’n asgwrn cefn i ffermio yng Nghymru ac yn cynyddu gwerth ein heconomi wledig.”

Hefyd, daw rhagor o incwm i mewn i’r fferm gyda Sion yn gweithio ar ffermydd lleol fel contractwr cneifio a ffensio.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Meirionnydd Huw Jones: “Roedd hyn yn gyfle gwych i gael trafodaeth fanwl am faterion amaethyddol a’r economi wledig, ac i glywed gan Sion a Hywel am y sialensiau sydd yn eu hwynebu ar hyn o bryd.  Hoffwn ddiolch i deulu Evans am gynnal yr ymweliad a Liz Saville Roberts wrth gwrs am gwrdd â ni ar y fferm.”