Aelodau UAC yn ymweld â busnes maeth cynnyrch llaeth blaengar

Mwynhaodd aelodau Undeb Amaethwyr Cymru ymweliad â busnes maeth cynnyrch llaeth blaengar Volac yng Ngorllewin Cymru, a gynhaliwyd diwrnod cyn Sioe Laeth Cymru (Llun 23 Hydref).

Sefydlwyd Volac, un o'r busnesau maeth cynnyrch llaeth rhyngwladol uchelgeisiol sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop yn y 1970au ac mi brynwyd y safle prosesu llaeth yn Felinfach, Ceredigion ym 1989.

Ers hynny, buddsoddwyd dros £1 miliwn y flwyddyn yn y ffatri, gan gynnwys yr offer uwch-hidlo a micro-hidlo diweddaraf.

Heddiw, mae Felinfach yn cynhyrchu cynhyrchion llaeth o safon uchel ar gyfer marchnadoedd bwyd anifeiliaid a bwyd o'u cyfleusterau gweithgynhyrchu helaeth.

Mae Felinfach yn cynhyrchu cynhyrchion llaeth gosod ar gyfer lloi, ?yn a moch bach, gyda thua hanner yn cael eu gwerthu i ffermydd y DU a’r gweddill yn cael ei allforio i Ewrop a thu hwnt.

Ar gyfer y marchnadoedd bwyd, mae Felinfach yn cynhyrchu cynnyrch maidd protein a dwysfwyd sydd ar werth mewn sectorau megis maeth gweithgar, rheoli pwysau a maeth ar gyfer pobl h?n.

Dywedodd Dai Miles, cadeirydd Pwyllgor Llaeth a Cynnyrch Llaeth UAC: "Hoffwn ddiolch i'r staff yn Volac Felinfach am ein tywys o gwmpas yr adeilad ac esbonio'r prosesau cynhyrchu. Yn sicr, roedd yn ddiddorol gweld sut mae busnes o’r radd flaenaf yn gweithredu.”