Dewis genomeg ar gyfer gwrthsefyll TB mewn gwartheg godro – a’i dyma’r ffordd ymlaen?

Mae achosion o TB ymhlith gwartheg godro a bîff yn parhau i fod yn ben tost i ffermwyr yng Nghymru.  Er gwaethaf y rhaglenni dileu niferus dros y blynyddoedd, mae'r afiechyd yn parhau i achosi anawsterau emosiynol ac ariannol, ac yn dinistrio llawer iawn o deuluoedd sy’n ffermio.

Ar Hydref 1 2017 gwelwyd newid sylweddol yn rhaglen dileu TB mewn gwartheg Llywodraeth Cymru ac, fel y disgwyliwyd, mae'r rhaglen newydd sydd wedi'i hailwampio yn parhau i ganolbwyntio'n helaeth ar fesurau rheoli gwartheg ac mae llawer o'r mesurau newydd yn rhoi sylw arbennig i achosion parhaol sy’n gweld  buchesi’n dioddef TB am fwy na 18 mis.

Er bod gwahanol ddulliau wedi'u cynnwys yn rhaglen ddileu TB mewn gwartheg diweddaraf Cymru, mae rôl geneteg wrth liniaru effeithiau TB mewn gwartheg hefyd wedi dod yn flaenllaw mewn trafodaethau diweddar i ddileu afiechydon.

Cafodd yr ymchwil gwreiddiol i eneteg TB ei wneud ar y cyd gan Brifysgol Caeredin, Sefydliad Roslin a Choleg Wledig yr Alban (SRUC) gyda chefnogaeth Defra a Llywodraeth Cymru.

Dangosodd eu gwaith bod yna amrywiad genetig rhwng anifeiliaid a sefydlwyd gradd  etifeddol o wrthsefyll TB. Cadarnhaodd AHDB Dairy hyn gyda'i bartneriaid ymchwil, SRUC a Roslin; ac ariannwyd y broses o weithredu mynegai genetig, ac ymgorfforwyd y Mantais TB i'r gwasanaeth gwerthuso genetig cenedlaethol.

Hefyd, maent wedi dynodi rhannau o'r genom buchol sy'n gysylltiedig â gwrthiant ac maent wedi dangos bod dewis genomeg ar gyfer gwartheg sydd â gwrthiant gwell yn well yn ymarferol heb ymyrryd â'r prawf croen presennol ar gyfer twbercwlosis.

Rhoddwyd rhagor o wybodaeth ar y pwnc gan Reolwr Technegol AHDB ar gyfer Bridio a Ffrwythlondeb, Andrew Dodd, a siaradodd mewn seminar ar ddewis genetig ar gyfer gwrthsefyll TB mewn gwartheg, a drefnwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru, yn Sioe Laeth Cymru.

Dywedodd: "Mae ffermwyr llaeth yn gwneud penderfyniadau bridio yn seiliedig ar nifer o ffactorau ac ers lansio ein Mynegai Genetig Mantais TB llynedd, maent bellach yn medru meddwl am ymwrthedd gwell i dwbercwlosis buchol. Mae hyn yn newyddion gwych i'r rhai hynny sydd mewn ardaloedd risg uchel ond hefyd dylai pob ffermwr ei ystyried fel polisi bridio ehangach fel strategaeth ddileu ehangach".

Mae UAC yn parhau i dynnu sylw at y ffaith bod lefelau presennol TB mewn gwartheg yng Nghymru yn fwy na'r hyn sy’n dderbyniol i wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd pan fydd y DU y tu allan i'r farchnad sengl.  Mae’r Undeb yn bryderus iawn oherwydd gall statws presennol y clefyd fod yn bwnc trafod heriol.

"Mae'r canfyddiadau hyn yn galonogol gan y gallent ganiatáu rhywfaint o amddiffyniad yn erbyn TB mewn gwartheg trwy bridio dethol," meddai Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi UAC.