Ffermwr o’r 10fed genhedlaeth yw Cadeirydd newydd Sir Drefaldwyn

Mae ffermwr o’r 10fed cenhedlaeth o Lanrhaeadr ym Mochnant wedi cymryd yr awennau fel Cadeirydd y Sir, cangen Sir Drefaldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru.

Mae Aled Huw Roberts, 37, wedi bod yn gweithio fel rheolwr fferm am dros 20 mlynedd ger Wrecsam, yn ogystal a ffermio ei hun ym Mhlas Du, Llanrhaeadr ym Mochnant ger Croesoswallt ers 2012.

Yn ystod yr wythnos mae Aled yn gyfrifol am fferm b?ff a defaid 1000 acer, sy’n gartref i 70 o wartheg Duon Cymreig a 1400 o ddefaid croes Cymreig a Texel a rhai cyfnewid cyn dychwelyd adref i’w fferm 160 acer a 50 acer o dir rhent gyda’r nos a’r penwythnosau.  Yma mae’n cadw 10 o wartheg b?ff Aberdeen Angus a 600 o ddefaid croes Texel gan gynnwys rhai cyfnewid.

Bu Aled yn Is Gadeirydd cangen Sir Drefaldwyn o UAC am dros ddwy flynedd cyn cael ei ethol fel Cadeirydd y Sir ar ddiwedd mis Mai.  Yn 2013, roedd yn rhan o brosiect arweinyddion y dyfodol Academi Amaeth ac mi astudiodd amaethyddiaeth yng Ngholeg Llysfasi.  Yn ei amser hamdden, mae Aled hefyd yn arweinydd CFfI Dyffryn Tanat ac yn ceisio chwarae ambell i gêm ar gyfer ei glwb rygbi lleol sef ‘Cobra’.

Yn siarad am ei benodiad, dywedodd Aled, “Hoffwn ddiolch i’n haelodau am fy ethol i fod Gadeirydd nesaf y sir ac edrychaf ymlaen at gynrychioli Undeb Amaethwyr Cymru.  Mae fy rhagflaenydd Mark Williams wedi gwneud gwaith gwych fel Cadeirydd a gobeithio y byddaf yn medru parhau gyda’i waith da.

“Mae amaethyddiaeth yng Nghymru’n wynebu dyfodol ansicr ac mae llawer o waith i’w wneud er mwyn sicrhau bod ffermwyr Cymru yn cael y fargen orau -  yn nhermau cyfleoedd masnach yn y wlad hon.  Rwy’n teimlo’n angerddol yngl?n ag amaethyddiaeth a sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o ffermwyr yn wynebu dyfodol disglair a llwyddiannus.

“Felly, rwy’n mynd i wneud popeth o fewn fy ngallu i helpu Undeb Amaethwyr Cymru gyda’i haddewid i ddatgan safbwyntiau ffermwyr Cymru yn ddiduedd ac yn rhydd o unrhyw benderfyniadau allanol neu ddylanwadau ariannol a diogelu a hyrwyddo buddiannau’r rhai hynny sy’n ennill incwm o amaethyddiaeth yng Nghymru.”