Neges glir UAC: Os yw #AmaethAmByth yn agos at eich calon, peidiwch anghofio pleidleisio

Mae’r rhai hynny sy’n gweld pwysigrwydd #AmaethAmByth yn cael eu hannog i sicrhau eu bod nhw’n pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol, dydd Iau, 8 Mehefin.

 

Mae UAC, sydd wedi yn diogelu a hyrwyddo buddiannau’r rheiny sy’n ennill incwm o amaethyddiaeth yng Nghymru ers 1955 wedi cynnal hystings ym mhob rhan o Gymru cyn yr etholiad, gan roi cyfle i bleidleiswyr glywed am weledigaeth pob plaid wleidyddol ar gyfer amaethyddiaeth.

 

“Mae nifer ohonom sydd wedi mynychu’r hystings yng ngofal UAC wedi gwrando ar y dadleuon gan bob plaid wleidyddol, yn ogystal â chadw llygad barcud ar ddadleuon yr etholiad ar y teledu.

 

“Rydym yn sefydliad sy’n wleidyddol niwtral a bob amser wedi gweithio gyda phob plaid wleidyddol i sicrhau’r gorau ar gyfer ein cymunedau gwledig, o’n harfordiroedd hyfryd i'n copaon uchaf, a phawb sy'n ennill incwm o amaethyddiaeth,” dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts.

 

“Mae'r bleidlais yn bwysig iawn i ddyfodol ein gwlad. Mae'n rhaid i ni gael y sbectrwm llawn o safbwyntiau yn yr etholiad hwn ac mae hynny'n cynnwys ein lleisiau gwledig ac ifanc.

 

"Rydym wedi cyfarfod ag ymgeiswyr yr Etholiad Cyffredinol o bob un o’r prif bleidiau yng Nghymru a'r DU i amlinellu blaenoriaethau allweddol yr Undeb ar gyfer amaethyddiaeth a amlinellwyd yn ein gofynion maniffesto, gan gynnwys ein prif orchymyn bod y Llywodraeth nesaf yn trafod trefniadau pontio Brexit gyda’r UE sy’n caniatáu digon o amser i gytuno ar delerau masnachu, a materion eraill sydd o fudd i Gymru, y DU a’r 27 o wledydd a fydd ar ôl yn yr UE,” ychwanegodd Mr Roberts.

 

Ychwanegodd Mr Roberts, os nad ydym am weld Cymru a ffermio yn cael eu troi mewn i amgueddfa awyr agored, mae’n rhaid cydnabod y rhan mai amaethyddiaeth yn ei chwarae wrth gadw cymunedau gwledig yn fyw.

 

"Rydym am weld dyfodol llewyrchus i bobl go iawn ac mae amaethyddiaeth yn chwarae rhan allweddol yn hynny. Felly, byddwn yn annog pawb sydd a #AmaethAmByth yn agos at eu calon i wneud yr ymrwymiad i fynd i bleidleisio, waeth beth yw eu safbwyntiau gwleidyddol," ychwanegodd Glyn Roberts.