UAC yn tynnu sylw at bryderon ehangach am effaith ariannol cynyddu Trethi Busnes

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ailadrodd ei phryder am yr effaith a gaiff y bwriad i gynyddu trethi busnes ar y sector amaethyddol yng Nghymru, ac ar economi cefn gwlad Cymru’n gyffredinol.

 

O ganlyniad i ailbrisio eiddo ar sail prisiau 2015, bydd nifer o fusnesau yng Nghymru’n wynebu newid yn eu trethi ar ôl mis Ebrill. Bydd hyn yn effeithio ar nifer o ffermydd sydd wedi arallgyfeirio dros y blynyddoedd diwethaf, ond yr hyn sy’n dod yn fwy clir yw’r effaith a gaiff hynny yn ei dro ar ffermwyr sy’n gwerthu’u da byw ym marchnadoedd Cymru.

 

“Rydym wedi derbyn adroddiadau gan farchnadoedd da byw bod eu trethi ar fin codi bron 100% ac os ystyriwch chi sut y byddan nhw’n talu’r bil hwnnw mae’n eitha’ clir. Bydd yr arian yn dod trwy godi comisiwn uwch yn y marchnadoedd, a fydd felly’n effeithio ar bob ffermwr,” meddai Brian Thomas, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

 

“Rydym yn gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod arian ar gael i’w ddosbarthu gan awdurdodau lleol, yn ogystal â chynllun cymorth pontio Llywodraeth Cymru sy’n werth £10m, a’i Chynllun Rhyddhad Trethi ar gyfer Busnesau Bach, sy’n werth £100m

 

“Fodd bynnag, does dim disgwyl yn realistig i rywle fel marchnad da byw i amsugno costau o’r fath. Does ganddyn nhw ddim ffynhonnell arall amlwg o incwm ar wahân i daliadau comisiwn, felly bydd y dreth gosbol hon yn effeithio ar bob ffermwr sy’n gwerthu anifeiliaid yn y marchnadoedd hyn,” ychwanegodd Mr Thomas.

 

Bydd Undeb Amaethwyr Cymru’n parhau i frwydro i sicrhau nad yw’r gyfundrefn dreth yn bwrw cefn gwlad Cymru mwy na sydd angen.