UAC yn pwysleisio’r angen am Fframwaith Amaethyddol ar gyfer y DU yng Nghynhadledd Plaid Cymru

[caption id="attachment_7755" align="alignleft" width="300"] Llywydd UAC, Glyn Roberts a Rheolwr Gyfarwyddwr UAC, Alan Davies yn siarad ym mhrif drafodaeth Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru.[/caption]

Pwysleisiodd Undeb Amaethwyr Cymru bwysigrwydd fframwaith Amaethyddol ar gyfer y Deyrnas Unedig, sy’n parchu datganoli a’r rôl bwysig mae ffermio’n ei chwarae yn yr economi wledig, yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru’n ddiweddar, ar y thema ‘Cryfhau Cymunedau, Cryfhau Cymru’.

Yn siarad yn ystod trafodaeth y prif lwyfan dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr UAC, Alan Davies:  “Os gosodir fframwaith amaethyddol, bydd hwnnw ar gyfer Lloegr yn bennaf.  Rhaid inni gael pob gwlad i gytuno i fframwaith ar gyfer y Deyrnas Unedig, sy’n atal cystadleuaeth annheg rhwng y rhanbarthau datganoledig.

“Rhaid i amaethyddiaeth yn y DU a Chymru fod yn broffidiol ac yn gynaliadwy, a rhaid cydnabod y rôl bwysig mae ffermydd teuluol yn ei chwarae o ran troi olwynion yr economi wledig, yn ogystal â chydnabod nad yw Cymru yr un fath â Lloegr yn nhermau angen, cynnyrch a phwysigrwydd cymdeithasol amaethyddiaeth.

“Hefyd, mae’n hanfodol bod cymorth amaethyddol yn cael ei gynnal ar lefelau sy’n adlewyrchu’r lefelau petai’r DU wedi pleidleisio i aros yn yr UE.  Amaethyddiaeth a ffermio yw’r grym sy’n gyrru’n heconomi wledig, ac os ydyn ni am weld Cymru’n ffynnu y tu allan i’r UE, yna rhaid cydnabod hynny.”

Aeth UAC ymlaen i drafod cyfraniad ffermio i’r economi, gan bwysleisio mai ffermio yw conglfaen diwydiant cadwyn bwyd a diod Cymru, sy'n werth £6.1 biliwn, a bod 76,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector bwyd ac amaeth, gan helpu i gadw pobl ifanc yn ein cymunedau gwledig.

[caption id="attachment_7756" align="alignright" width="225"] Llywydd UAC, Glyn Roberts yn croesawu arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood i stondin yr Undeb yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru[/caption]

[caption id="attachment_7757" align="alignleft" width="225"] Llywydd UAC, Glyn Roberts yn croesawu Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Simon Thomas, Plaid Cymru i stondin UAC.[/caption]

Meddai Glyn Roberts, Llywydd UAC: “Os ydyn ni’n gwerthfawrogi’n cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein cefn gwlad, ein treftadaeth, ein hysgolion, a’n swyddi, yna rhaid inni eu gwarchod.  Felly mae’n hanfodol bod cyllid sydd wedi’i neilltuo’n benodol ar gyfer amaethyddiaeth yn cael ei ddyrannu i Gymru y tu all i Fformiwla Barnett, a bod hwnnw wedyn yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru.

“Mae modd inni sicrhau dyfodol llewyrchus i’r sector ar ôl inni adael yr UE, ac mae digon o gyfleoedd y gellir eu harchwilio, ond mae llawer yn dibynnu ar barodrwydd ein gwleidyddion i gydnabod pa mor wahanol yw ffermio ar draws y gwledydd datganoledig, a pha mor wahanol yw eu hanghenion.

“Mae ffermio’n gwneud cyfraniad mor werthfawr i’n heconomi.  Mae cefn gwlad yn cael ei reoli a’i gynnal yn sgil amaethyddiaeth, sydd yn ei dro’n dod â thwristiaeth.  Rhaid inni beidio ag anghofio bod cefn gwlad Cymru, sy’n cael ei reoli gan ein ffermwyr, yn darparu cefnlen ar gyfer y diwydiant twristiaeth, sy’n werth dros £2.5 biliwn.