Ffermwr o Sir Drefaldwyn yn llawn gobaith am ddyfodol gwlân

[caption id="attachment_7720" align="alignleft" width="185"] Steve Smith[/caption]

Mae Steve Smith, sy’n adnabyddus o fewn y byd amaeth ar draws Cymru a’r DU yn gyn-enillydd Ffermwr Defaid y Flwyddyn, ac mae wedi ennill sawl gwobr gyda’i ddiadell, sef diadell Texel Penparc.

Gwireddodd uchelgais yn 2010 pan enillodd bencampwriaeth y parau yn  Ffair Aeaf Cymru. Mae’n gyfarwydd iawn â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â bod yn ffermwr cenhedlaeth gyntaf, ond mae’n realistig am y blaenoriaethu sydd angen ei wneud i wireddu’ch  breuddwyd.

Mae Steve wedi ehangu’i fenter ffermio, sydd erbyn hyn yn ymestyn dros ryw 1200 o aceri, ac mae’r busnes wedi’i rannu rhwng dau ddaliad yn Sir Drefaldwyn a Sir Feirionnydd, lle mae system ddefaid gwbl haenedig ar waith.

Mae’n cydnabod greddf famol wych a hirhoedledd y ddiadell fynydd Gymreig, a’i dylanwad wrth adeiladu sylfaen mamol genetig cadarn ar gyfer menter cynhyrchu cig oen.  Mae Buches Hirgron Pedigri Penparc hefyd yn rhedeg ochr yn ochr â’r fenter, ac mae’n canolbwyntio ar farchnata hon ar gyfer y farchnad ansawdd uchel.

Mae’r daliadau’n rhan o gyfres cynlluniau amaeth-amgylcheddol Glastir Llywodraeth Cymru, a nod y teulu o’r dechrau fu paru rheolaeth tir cynaliadwy â stoc bridio o’r safon uchaf, ac mae’r ddwy egwyddor sylfaenol hyn yn ganolog i lwyddiant y busnes.

Mae Steve bob amser wedi gwerthfawrogi natur a’r angen creiddiol i sicrhau cynaladwyedd.  Meddai:  “Rwyf bob amser wedi parchu byd natur a’r amgylchedd, cyn i hynny ddod yn ffasiynol.”

Tua diwedd y 90au arallgyfeiriodd y teulu ymhellach gyda bythynnod gwyliau, ac yn fwy diweddar, ynni adnewyddadwy.

Ers 9 mlynedd bellach, Steve yw cynrychiolydd Sir Drefaldwyn ar Fwrdd Marchnata Gwlân Prydain, ac erbyn hyn mae’n gobeithio dod yn aelod etholedig Rhanbarth Gogledd Cymru, gan gynrychioli buddiannau ffermwyr Cymru, a hyrwyddo  gwaith ffermwyr Cymru a’r Bwrdd Gwlân ymhellach.

Mae ganddo bersbectif byd-eang a dealltwriaeth o sut mae’r marchnadoedd yn gweithio a beth sydd ei angen i greu diwydiant llwyddiannus, sy’n bwysicach nawr nag erioed yn sgil penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Bydd angen i bob ased ar y fferm, gan gynnwys gwlân, gwrdd yn y ffordd fwyaf effeithlon â gofynion y defnyddiwr.  Mae’n hawdd anghofio pam y cafodd mentrau cydweithredol eu creu yn y lle cyntaf.  Cawsant eu sefydlu mewn cyfnod o adfyd er mwyn cryfhau llais amaethyddiaeth,  ein cyndeidiau oedd rhai o entrepreneuriaid mwyaf eu hoes.  Yn ystod y degawdau diwethaf mae ffermwyr mewn mynd yn fwy a mwy ynysig yn sgil yr angen i fod yn fwy effeithlon a mecaneiddio cynyddol,” meddai.

Yn sgil grymoedd byd-eang a masnachu rhydd yn y dyfodol, gall yr amser ddod unwaith eto pan fydd angen i ffermwyr gryfhau eu lleisiau i gael eu clywed.  Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain i bob pwrpas yw’r corff cynhyrchwyr cydweithredol mwyaf ym Mhrydain, gyda dros 40,000 o ffermwyr defaid cofrestredig, ac mae bob amser wedi gweithredu ar draws y farchnad fyd-eang, sy’n ei roi mewn sefyllfa dda i symud ymlaen yn y dyfodol.

Mae Steve yn ymwybodol bod yna fwy o waith i’w wneud i sicrhau effeithlonrwydd, a dywed:  “Rwyf am gael mwy o’r pris a delir am y gwlân yn ôl i’r cynhyrchwyr oherwydd mai dyna yw’r gwir nod yn y pen draw.

“Yn ddiweddar penododd y Bwrdd Joe Farrell  i gymryd yr awenau fel y Prif Weithredwr newydd.    Mae Mr Farrell yn gyn-fargyfreithiwr gyda sgiliau rheoli ardderchog, ac mae’n cydnabod yr angen i gefnogi rhaglenni hyfforddiant a darparu’n ffermwyr â gwerth am arian.  I ryw raddau gellid gwneud hynny trwy leihau’r costau gweinyddu, marchnata a hyrwyddo.  Fodd bynnag, gellir ond cyflawni hynny os bydd pob cynhyrchydd gwlân yn cefnogi Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain.  Os collwn ni hyn, a bod y diwydiant yn mynd ar chwâl, bydd pawb ar eu colled.

Mae’n bwysig iawn bod pawb sy’n cynhyrchu gwlân yn deall sut mae’r broses yn gweithio, ac yn gweld faint sy’n cael ei fuddsoddi yn safleoedd prosesu gwlân y wlad hon.  Mae cadw’r gallu i brosesu’r gwlân yn y DU yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein marchnadoedd yn parhau i fod yn resymol gystadleuol.

“Gellid dweud yr un peth am ein diwydiant cig coch a’n diwydiant llaeth.  Rhaid bod ‘gwerth ychwanegol’ wrth wraidd ein holl weithgareddau yn y dyfodol.  Mae ‘na amseroedd cyffrous o’n blaenau ac, ydw, dwi’n gwybod bod pris gwlân wedi gostwng ychydig ar y foment, ond mae’n gynnyrch gwyrdd sy’n cwrdd â disgwyliadau cwsmeriaid heddiw,” meddai Steve.

Mae Steve yn cydnabod bod y byd yn newid a bod ffermwyr yn wynebu dyfodol ansicr yn nhermau’r arena wleidyddol.  Dywed:  “Nid yw ffermwyr wedi gorfod cwrdd â gymaint o ofynion erioed o’r blaen.   Cadw  nifer digonol o ddefaid i allu goroesi a llwyddo fydd un o’r heriau nesaf yn sgil newidiadau i’r cymorth ar gyfer ffermydd, ond nid yw hynny’n golygu na allwn ni gynllunio ar gyfer ein dyfodol, ymchwil newydd a datblygiad.

“Mae’r defnydd cynyddol o adnoddau naturiol a’r lleihad angenrheidiol yn y defnydd o danwydd ffosil yn golygu y bydd angen i ddefnyddwyr wneud dewisiadau mwy hirdymor wrth brynu.  Mae gwlân yn enghraifft wych o hynny, a gyda chydweithrediad cynllunwyr newydd cyffrous, rwy’n hyderus y bydd y term ‘Twf Gwyrdd’ yn denu prynwyr ar gyfer gwlân Cymru a’r DU gan greu dyfodol disglair.”

Wrth annog ffermwyr i gefnogi Steve Smith yn ei uchelgais i gael ei ethol yn Aelod Rhanbarth y Gogledd, dywedodd Swyddog Gweithredol Sirol UAC Sir Drefaldwyn, Emyr Wyn Davies: “Mae Steve yn llawn brwdfrydedd ac yn fwy na dim, mae’n gwybod sut mae Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain yn gweithio, ar ôl bod yn gynrychiolydd Sir Drefaldwyn ers dros naw mlynedd.  Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi derbyn papur pleidleisio i gefnogi Steve yn ei ymdrech i hyrwyddo gwaith y Bwrdd Gwlân ymhellach.