Cyfnod anodd o ran taclo TB

Tua diwedd yr 1960au roedd y Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yn ceisio datrys dirgelwch:  roedd profion gwartheg a rheoli symudiadau wedi llwyddo i ostwng lefelau TB mewn gwartheg i ffracsiwn o un y cant, gan arwain at ddileu’r clefyd o’r rhan fwyaf o’r DU; ac eto nid oedd y rheolau hyn i’w gweld yn cael fawr ddim effaith ar lefelau’r clefyd yn rhannau o Dde Orllewin Lloegr, lle’r oedd nifer yr achosion o leiaf bum gwaith yn uwch na’r gyfradd genedlaethol.

Cafwyd cadarnhad o’r hyn yr oedd llawer wedi’i amau yn 1971, pan gafwyd bod mochyn daear marw wedi’i heintio'n ddifrifol â TB.  Roedd dwy nodwedd arbennig yn perthyn i’r ardal lle daethpwyd o hyd i’r mochyn daear; roedd yno lefelau uchel o TB, yn ogystal â’r hyn a ystyrid bryd hynny yn nifer uchel o foch daear.

Arweiniodd y darganfyddiad at gyfres o bolisïau cenedlaethol oedd yn anelu at gael gwared â moch daear mewn ardaloedd o’r fath - polisïau a gefnogwyd gan gadwraethwyr amlwg fel Peter Hardy AS, noddwr Deddf Moch Daear 1973 - ond o ganol yr 1980au ymlaen aeth y rhain yn llai dwys, ac yn 1997, gosodwyd gohiriad ar y difa, sy’n parhau i fod mewn grym yng Nghymru hyd heddiw.

Ers 1971, amcangyfrifir bod nifer y moch daear wedi cynyddu ddengwaith yn sgil deddfwriaeth gwarchod moch daear - i’r fath raddau fel bod dwysedd y boblogaeth moch daear ar draws rhannau helaeth o Gymru a’r DU erbyn hyn ar yr un lefel â’r hyn a welwyd cynt mewn pocedi o Dde Orllewin Lloegr yn unig, lle'r oedd TB wedi para.

Mae cryn dystiolaeth o effaith y cynnydd hwn ar anifeiliaid gwyllt eraill, yn arbennig yn nhermau’r effaith drychinebus ar nifer y draenogod - wedi’r cyfan, y mochyn daear yw ein hanifail cigysol daearol mwyaf.

Nid yw’n syndod felly bod TB wedi dychwelyd ar lefelau epidemig ar draws y rhan fwyaf o Gymru, wrth i ddulliau o reoli gwartheg sydd wedi profi’n effeithiol mewn gwledydd heb gronfeydd bywyd gwyllt fethu â rheoli’r clefyd.

Ers 1997, mae’r ganran flynyddol o fuchesi yng Nghymru sydd wedi colli eu statws rhydd o TB swyddogol wedi codi ddengwaith, ac mae’r nifer o wartheg sy’n cael eu difa yng Nghymru bob blwyddyn i reoli’r clefyd wedi codi o 613 yn 1997 i 9,934 yn y 12 mis hyd Hydref 2016.  Yn ystod yr un cyfnod, ni chafodd yr un mochyn daear ei ddifa yng Nghymru oherwydd TB, er gwaethaf ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru, sy’n dangos bod lefelau TB mewn moch daear pedwar gwaith ar ddeg yn uwch nag mewn gwartheg.

Rhwng  2007 a 2011, penderfynodd clymblaid Llafur-Plaid Cymru, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, fwrw’r maen i’r wal trwy roi cynllun difa moch daear ar waith yng Ngogledd Penfro, ond rhwystrwyd eu cynlluniau; yn gyntaf gan y llysoedd, a farnodd nad oedd y ddeddfwriaeth wreiddiol oedd yn sail i’r difa wedi’i drafftio’n gywir, ac yna gan weinyddiaeth Llafur 2011-2016, a benderfynodd frechu yn hytrach na difa moch daear yn yr ardal - er gwaethaf cyngor swyddogol y byddai rhaglen frechu mor aneffeithiol fel y byddai’n costio £3.5 miliwn net, tra byddai’r difa wedi lleihau nifer yr achosion a lefel y difa o fewn buchesi, gan fwy na gwneud iawn am y gost.

Cefnogwyd y safbwynt hwn gan is-gr?p TB mewn Gwartheg Tasglu’r UE ar gyfer Monitro Rhaglenni Dileu Clefydau Anifeiliaid, a feirniadodd Cymru am newid cyfeiriad yn 2012 gan ddweud “There is no scientific evidence to demonstrate that badger vaccination will reduce the incidence of TB in cattle. However there is considerable evidence to support the removal of badgers in order to improve the TB status of both badgers and cattle.”

Nid yw’n syndod felly bod yr adroddiad swyddogol diweddaraf ar y rhaglen brechu moch daear yng Ngogledd Penfro, a gostiodd £3.7 miliwn yn dod i’r casgliad - “Consistent trends in indicators of bTB incidence have not yet been seen…”

I ffermwyr Cymru sy’n dioddef canlyniadau emosiynol ac ariannol dyddiol cael eu busnesau wedi’u cau i lawr am fisoedd oherwydd cyfyngiadau symud, a gweld eu gwartheg yn cael eu casglu, neu’u difa ar y fferm, blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae cynigion diweddaraf Llywodraeth Cymru i ddwysáu’r rheolau TB, sydd eisoes y llymaf yn y byd, wedi creu dicter mawr – ond nid oherwydd y rheolau eu hunain.

Yn wir, er mai prin yw’r rhai sy’n cytuno â’r holl gynigion - sy’n cynnwys rhannu Cymru’n bum rhanbarth, gyda phob un â rheolau symud ychwanegol llym - mae nifer yn deall rhinweddau’r hyn mae Llywodraeth Cymru’n ceisio’i gyflawni, ond gydag un rhybudd:  mae methu â chynnwys cynigion cadarn i ddelio â’r gronfa glefyd mewn moch daear yn gwbl ddisynnwyr.

Mynegwyd pryderon tebyg yn ystod gwrandawiad diweddar o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd,  Amgylchedd a Materion Gwledig, pan gyfeiriodd Dr Paul Livingstone, a arweiniodd rhaglen lwyddiannus i ddileu TB yn Seland Newydd, at foch daear fel ‘yr eliffant yn yr ystafell’, gan honni bod dim yn cael ei wneud yng Nghymru ynghylch cronfa clefyd allweddol.

Gallai Llywodraeth Cymru ddadlau bod honiadau o’r fath yn annheg – wedi’r cyfan, maent wedi rhoi rhaglen brechu moch daear (er yn aflwyddiannus hyd yn hyn) ar waith, ac yn ddiweddar dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol Christianne Glossop y gallai grwpiau heintus o foch daear gael eu maglu a’u lladd heb greulondeb lle gellir profi’n wrthrychol bod moch daear yn heintus.

Yn bendant mae’n wir fod Llywodraeth Cymru a’r diwydiant ffermio fel ei gilydd yn cydnabod bod moch daear yn ffynhonnell haint, a bod angen gwneud rhywbeth am y mater; mae’r ddadl ynghylch beth i’w wneud a phryd.

Mae ffermwyr yn ofni y bydd safbwyntiau personol a llwfrdra gwleidyddol ar ran y gwleidyddion yn parhau i arafu’r broses o gael gwared â TB, wrth i bob esgus gael ei ddefnyddio i osgoi gweithredu, a gwelir difa moch daear ‘lle gellir profi’n wrthrychol’ fel tacteg gohirio sy’n osgoi taclo’r hyn sy’n debygol o fod yn achosi’r haint dros yr hirdymor.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd Ysgrifennydd y Cabinet Lesley Griffiths yn ystyried p’un ai i roi cynigion Llywodraeth Cymru ar waith ai peidio.

Tra bod datganiadau Llywodraeth Cymru ynghylch difa moch daear pan fydd digon o dystiolaeth wedi’i chasglu’n awgrymu bod yna lygedyn o obaith, bydd diffyg cadernid a methu â lledaenu mesurau o’r fath yn gyflym ac ar raddfa digon eang, yn gohirio ac yn ychwanegu degawdau at y broses ddileu, gan ymestyn y gost a’r torcalon i deuluoedd ffermio.

Byddai’r sefyllfa’n ddigon gwael dan amgylchiadau arferol, ond gyda Brexit ar y gorwel, mae cystadleuwyr mewn gwledydd eraill yn cadw un llygad ar ein statws TB, a sut y gallant ei ddefnyddio er eu budd nhw - a’n colled ni - mewn trafodaethau masnach.  Mae’r cloc yn tician.