Ysgrifennydd y Cabinet dros Yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn agor swyddfa UAC newydd

[caption id="attachment_7674" align="aligncenter" width="300"] O'r chwith, Llywydd UAC, Glyn Roberts, Lesley Griffiths, Cadeirydd cangen Sir Drefaldwyn o UAC Mark Williams, a Swyddog Gweithredol Sirol UAC Emyr Wyn Davies.[/caption]

Roedd ffermwyr yn Sir Drefaldwyn wrth eu boddau’n croesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, i agor swyddfa newydd Undeb Amaethwyr Cymru yn Y Drenewydd yn swyddogol. Mae’r adeilad newydd, modern wedi’i leoli ar Uned 2, Parc Busnes St. Giles, Pool Road, Y Drenewydd.

 

Meddai Swyddog Gweithredol Sirol UAC Sir Drefaldwyn Emyr Wyn Davies: “Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am agor ein swyddfa’n swyddogol yma yn Y Drenewydd heddiw.  Mae agor y swyddfa newydd hon yn pwysleisio ymrwymiad parhaol UAC i’w strwythur sirol, sy’n caniatáu i aelodau dderbyn gwasanaethau un i un, wyneb yn wyneb.

 

“Un o’r rhesymau craidd dros gael y swyddfa hon, a’n deg swyddfa sirol arall, yw er mwyn galluogi UAC i ddeall y problemau gwahanol a wynebir gan ffermwyr ar draws Cymru, i grynhoi sawl persbectif gwahanol, ac i ymateb i bryderon ar lefel briodol yn lleol a chenedlaethol.”

 

Wrth siarad yn yr agoriad, atgoffodd Llywydd UAC, Glyn Roberts Ysgrifennydd y Cabinet fod y broblem TB mewn gwartheg angen ei datrys ar frys.

 

“Roedd un o’r negeseuon cryfaf i ddod o’r sir hon y llynedd yn gysylltiedig â TB mewn gwartheg a’r bwriad i rannu Cymru’n bum rhanbarth.  Petai’r cynigion hyn yn cael eu cyflwyno, mi fyddai gennym bum rhanbarth gyda setiau o reolau TB gwahanol o fewn 20 milltir o’r swyddfa hon.

 

“Rydym yn deall yn llwyr beth mae Llywodraeth Cymru’n ceisio’i gyflawni ac yn croesawu’r cyfeiriadau a wnaed at weithredu mewn perthynas â bywyd gwyllt. Mae  pawb yn cefnogi’r nod, ac yn deall y rhesymeg tu ôl i’r rhanbarthau.  Ond dim ond lle mae’r camau gweithredu’n wirioneddol holistig.

 

“Mae ofn dychrynllyd ar bobl y bydd y rhan hon o Gymru’n cael ei rhwygo ar wahân, ac y byddwn yn parhau i weld sefyllfa lle mae offer di-fin yn cael ei ddefnyddio ar ein gwartheg, tra bod y lefel o dystiolaeth sydd ei hangen i weithredu yn erbyn bywyd gwyllt lle bo angen y tu hwnt i gyrraedd,” ychwanegodd Mr Roberts.