UAC Ynys Môn yn trafod #AmaethAmByth gyda’r AS lleol

[caption id="attachment_7331" align="alignleft" width="300"]Aelodau UAC Ynys Môn yn dweud wrth yr AS lleol Albert Owen pam bod #AmaethAmByth. Aelodau UAC Ynys Môn yn dweud wrth yr AS lleol Albert Owen pam bod #AmaethAmByth.[/caption]

Mae cangen Ynys Môn o Undeb Amaethwyr Cymru wedi cynnal cyfarfod llwyddiannus gyda’r AS lleol Albert Owen er mwyn trafod #AmaethAmByth, gan gynnwys yr economi wledig, Brexit a phwysigrwydd y fferm deuluol.

Cynhaliwyd y cyfarfod ar ddydd Gwener Tachwedd 25 ar fferm Quirt, Dwyran, fferm laeth o eiddo’r cyngor sy’n cael ei rhedeg gan aelodau UAC Richard a Margaret Davies.  Ymunodd Dyfrig Hughes o BOCM Pauls a’r cyfarfod hefyd er mwyn atgyfnerthu neges UAC o bwysigrwydd #AmaethAmByth i’r economi leol.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Sirol cangen Ynys Môn Heidi Williams:  “Cawsom gyfarfod da iawn gyda’n AS lleol Albert Owen heddiw ac mi bwysleisiwyd pwysigrwydd amaethyddiaeth i’n heconomi leol.  Yn ystod ein cyfarfod, pwysleisiwyd y dylid cadw’r gefnogaeth ar gyfer amaethyddiaeth ar ôl Brexit ar lefelau sydd ddim yn cyfaddawdu'r fferm deuluol nag economïau gwledig.

“Dylai amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd gael blaenoriaeth yn ystod yr holl drafodaethau masnach â gwledydd eraill a blociau masnachu, a phwysleisiwyd ni ddylai biwrocratiaeth a chyfyngiadau gael effaith niweidiol na rhwystro amaethyddiaeth yng Nghymru a'r DU.

“Pwnc arall o dan sylw oedd er gwaethaf pa gytundebau masnach sydd mewn grym o fewn y DU ar ôl Brexit, bydd ffermwyr Cymru’n cystadlu yn erbyn eu cyfatebwyr mewn rhanbarthau datganoledig arall, felly mae angen i ni sicrhau bod gyda ni un polisi ar draws y DU sy’n cwtogi’r gystadleuaeth annheg ac afluniad y farchnad unwaith y byddwn ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Roeddem am bwysleisio hefyd bod y ffordd y mae cyllidebau’n cael eu clustnodi gan Lywodraethau’r DU a dosbarthu’r cyllidebau datganoledig drwy’r Fformiwla Barnett yn arwain at fwy o gymhlethdodau.  Mae hyn yn achosi bygythiad sylweddol yn nhermau anweddolrwydd ac unrhyw ddosbarthiad pellach o gyllid amaethyddol i Gymru.”

Roedd y rhai hynny oedd yn bresennol hefyd yn awyddus i ail-gyflwyno’r Bwrdd Marchnata Llaeth.

Clywodd Mr Albert hefyd bod gwerthu ffermydd y cyngor lleol yn bryder mawr i Ynys Môn.  Ychwanegodd Heidi Williams: “Mae ffermydd y cyngor yn rhoi cyfle i’n pobl ifanc ddod mewn i’r diwydiant a tra ein bod yn gwerthfawrogi anawsterau ariannol y cynghorau, nid yw gwerthu’r daliadau yn cynnig cefnogaeth o gwbl i’r rhai hynny sydd am gychwyn yn y diwydiant.”