UAC yn croesawu cyhoeddiad Cynllun y Taliad Sylfaenol yn y Ffair Aeaf

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths fydd bron i 90% o daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol yn cael eu talu wrth i’r ffenestr daliadau newydd agor heddiw (1 Rhagfyr).

Yn siarad yn ystod Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd nod uchel o daliadau ac rydym yn ddiolchgar i’r holl staff sydd wedi gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei ryddhau ar ddiwrnod cyntaf y ffenestr daliadau.

“Llynedd, bu’n rhaid i ffermwyr aros am beth amser cyn derbyn eu taliadau oherwydd process eithriadol o gymhleth o gwblhau ffurflenni’r Cais Sengl, felly rydym yn gwerthfawrogi bod y problemau yma bellach wedi cael eu datrys yn y rhan fwyaf o achosion.

“Bydd y rhan fwyaf o’r arian sy’n cyrraedd cyfrif banc y fferm drwy’r taliad sengl yn mynd yn syth i fusnesau eilradd a thrydyddol.  Mae cannoedd o fusnesau’n dibynnu’n llwyr ar amaethyddiaeth Cymru.  Edrychwch ar yr holl fusnesau sy’n bresennol yn y Ffair Aeaf.  Byddai unrhyw oediad wrth talu’r taliad sengl yn cael effaith uniongyrchol ar y busnesau yma a’u gweithwyr.

“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni hyn i’n ffermwyr ni yma yng Nghymru ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio’n agos eto yn y dyfodol.  Mae cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru yn dangos ein bod yn medru cyflawni pethau gwych ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru os ydyn ni gyd yn cydweithio.”