Ffermwyr yn ymuno i newid gêr ar lawr gwlad

[caption id="attachment_5666" align="aligncenter" width="300"]Bu HCC yn siarad gyda chadeiryddion sefydlog Undeb Amaethwyr Cymru a’r cadeiryddion sirol. Bu HCC yn siarad gyda chadeiryddion sefydlog Undeb Amaethwyr Cymru a’r cadeiryddion sirol.[/caption]

 

Bydd HCC yn dyfeisio rhaglen gyfathrebu ychwanegol ar lawr gwlad i helpu i gyfleu'r gwaith amrywiol, eang a manwl a wneir ganddo ym maes marchnata a datblygu'r diwydiant ledled Cymru - daw ar ôl cyfarfod â chynhyrchwyr yn Aberystwyth ddydd Mawrth.

Roedd cadeiryddion sefydlog Undeb Amaethwyr Cymru a chadeiryddion sirol yn bresennol yn y cyfarfod yn swyddfeydd HCC, ac roeddent yn canolbwyntio ar y modd y gall y ddau sefydliad weithio'n well gyda'i gilydd er budd y diwydiant. Cawsant wybod y diweddaraf am ymgyrchoedd HCC, ac edrych ar ffyrdd i ennyn rhagor o gefnogaeth gan ffermwyr i helpu i hybu cynnyrch blaenllaw Cig Oen Cymru.

Caiff eu syniadau eu crynhoi mewn ymgyrch uchelgeisiol rhwng siroedd i ganiatau i gyfarfodydd ffermwyr gael gafael ar yr wybodaeth, y mentrau a'r ymgyrchoedd diweddaraf wrth i HCC gynyddu ei gefnogaeth i'r gadwyn gyflenwi yn y misoedd nesaf.

"Mae gan bob ffermwr, yn wir pob aelod o'r gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru, ran i'w chwarae dros y misoedd nesaf os ydym am gael yr effaith fwyaf ar y gwaith marchnata a datblygu a wneir ar eu rhan gan HCC," meddai Dai Davies, Cadeirydd HCC.

"Mae yna lu o lysgenhadon amaethyddol, ac mae'n rhaid i HCC fanteisio ar amser a pharodrwydd ffermwyr ar lefel y siroedd. Arweiniodd ein cyfarfod ddoe at lawer o syniadau da iawn ar gyfer lledaenu'r gair da.

"Bydd ein tîm yn cyfuno'r syniadau hyn ac yn eu troi'n estyniad newydd at ein gwaith ar lawr gwlad. Bydd hyn yn rhoi mynediad uniongyrchol i ffermwyr at amrywiaeth o gamau gweithredu gan HCC, a gwybodaeth a ffeithiau allweddol ar ffurf y gallant yn hawdd eu hystyried," meddai Mr Davies.

Dywedodd Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru: "Mae llawer o bethau'n dylanwadu ar y pris a gawn am ein cig oen, megis cyfraddau cyfnewid, ymddygiad cwsmeriaid, ac wrth gwrs mewnforion tramor. Ac er nad oes gennym b?er i ddylanwadu'n uniongyrchol ar brisiau'r farchnad na'r cyfraddau cyfnewid, gallwn gymryd camau i gefnogi ein diwydiant drwy gael ein bwyd yn lleol ac ymchwilio i farchnadoedd eraill ar gyfer ein cynnyrch gorau," ychwanegodd Mr Roberts.

"Mae'n bwysig fod pob un ohonom yn gweithio gyda'n gilydd os ydym eisiau gweld y diwydiant yn symud yn ei flaen, gyda mentrau megis sioe deithiol Cig Oen Cymru er enghraifft, oherwydd byddwn ni'n ymuno â HCC ar gyfer honno fel man cychwyn da."