Lansio Llyfr Nodau Clustiau Meirion ar Gororau ar wefan Heddlu Gogledd Cymru

Lansio Nodiau Clustiau ar-lein

Bu cynrychiolwyr o adran Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru yn mhabell Undeb Amaethwyr Cymru ar faes Sioe Sir Feirionnydd yn Harlech yn niwedd mis Awst, a bu’n gyfle i drafod atal troseddau a threfniant derbyn negeseuon OWL (Online Watch) drwy text neu e-bost ayyb. 

Un datblygiad diddorol eleni gyda gwaith y tîm Troseddau Cefn Gwlad oedd rhoi llyfr nodau clustiau defaid Meirion ar Gororau ar wefan Heddlu Gogledd Cymru.  Cafwyd cyfarfod arbennig ar faes y Sioe i gyflwyno a lansio hyn, a gweler yn y llun uchod swyddogion yr Heddlu ar Undeb ger y corlannau defaid yn y Sioe.  Bydd hyn yn sicr yn ddefnyddiol iawn yn y blynyddoedd i ddod, yn arbennig felly lle mae angen diweddaru y llyfr gyda nodau newydd ayyb. 

Dywedodd PC Dewi Evans o’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad; 

‘‘Heddlu Gogledd Cymru yw’r Heddlu cyntaf yng Nghymru, ac yn wir y Deyrnas Unedig, i ddarparu llyfr nodau clustiau defaid yn rhad ac am ddim ar y we.  Mae ar gael i ffermwyr ac eraill sydd â diddordeb mewn nodau clustiau.  Gall unrhyw un ddarllen y llyfr ar lein; mae hyd yn oed modd gwneud hynny ar ffôn symudol tra allan yn ffermio.  Mae gan y rhan fwyaf o ffermydd yr ucheldir yng Ngogledd Cymru nod clust sy’n unigryw i’r fferm honno.  Drwy nodi clustiau eich defaid byddwch yn diogelu’ch diadell rhag cael ei dwyn gan fod dafad â nod clust yn llawer llai deniadol i leidr.”

Mae llyfr Meirion a’i Gororau bellach ar gael, gyda llyfr Arfon a’i Gororau i ddilyn.  Er mwyn darllen y llyfr ewch i wefan Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru, neu ewch i

http://www.north-wales.police.uk/advice-and-support/safer-business/rural-crime.aspx?lang=cy-gb