UAC Ceredigion yn dathlu cynnyrch lleol gyda brecwastau ffermdy

Ymunodd cangen Ceredigion o Undeb Amaethwyr Cymru yn yr ymdrech i amlygu’r pwysigrwydd o gael brecwast da drwy drefnu dau frecwast yn ystod yr Wythnos Brecwast Ffermdy blynyddol a gynhelir rhwng Ionawr 25 a 31.

Ar fore dydd Mawrth Ionawr 27, agorwyd drysau Tynrhyd, Pontarfynach, Aberystwyth gan aelodau UAC Siân a Gareth Price, a chroesawyd y gymuned wledig am frecwast yn ei hysgubor sydd wedi ei drawsnewid i fod yn fusnes newydd sy’n gallu cynnal priodasau, cynadleddau, lleoliad ar gyfer gweithgareddau tîm yn ogystal â llety hunan-ddarpar.

Cynhaliwyd yr ail frecwast gan Arwel a Mary Davies, Fferm Pantswllt, Talgarreg yn Neuadd Goffa Talgarreg ar fore dydd Mercher Ionawr 28.

“Roedd hyn unwaith eto yn gyfle gwych i gael brecwast Cymreig gwych wedi cael ei baratoi trwy ddefnyddio eitemau’n rhoddedig gan gynhyrchwyr a chyflenwyr lleol megis Wyau Buarth Birchgrove, Bara Gwalia o Lanybydder, Owain y cigydd o Aberaeron, y cigydd o Lanon ac aelod UAC Ben Evans a Costcutters Aberaeron.  Roedd hefyd yn gyfle i ffermwyr ddod at ei gilydd i drafod y newid sydd ar fin digwydd i’r system taliadau’r PAC sy’n seiliedig ar arwynebedd ac i drafod Cynllun y Taliad Sylfaenol” dywedodd Caryl Wyn-Jones, swyddog gweithredol sirol, cangen Ceredigion.

“Nid y brecwast gwych yn unig oedd o dan sylw yma.  Rydym yn creu cyfleoedd i ffermwyr ar draws y sir i drafod y polisïau amaethyddol Cymreig cyfredol a bu’n gyfle i ni fel Undeb i glywed eu pryderon a sicrhau eu bod nhw’n cael eu cynrychioli.

“Llwyddwyd hefyd i godi £500 i elusennau’r Llywydd sef T? Gobaith a T? Hafan a hoffwn ddiolch i’n holl aelodau a’r staff am eu cefnogaeth barhaol” ychwanegodd Miss Wyn-Jones.