Aelodau UAC yn datgan pryderon am bris llaeth

[caption id="attachment_4220" align="aligncenter" width="300"]from left to right – FUW senior policy officer Dr Hazel Wright with local AM Alun Ffred Jones and shadow minister for sustainable communities for Plaid Cymru, Llyr Huws Gruffydd AM from left to right – FUW senior policy officer Dr Hazel Wright with local AM Alun Ffred Jones and shadow minister for sustainable communities for Plaid Cymru, Llyr Huws Gruffydd AM[/caption]

Mae aelodau UAC yn Sir Gaernarfon heddiw (Llun 19eg Ionawr) wedi trafod yr argyfwng presennol ym mhris llaeth efo’r Aelod Cynulliad lleol, Alun Ffred Jones ar fferm yr Is-gadeirydd Sirol, Mr Tudur Parry, Pengelli Isaf, Ffordd Bethel, Caernarfon.

Mae Mr Parry yn ffermio 280 erw yn ymyl Caernarfon.  Mae ganddo fuches o 125 o wartheg godro Holstein Friesian, 40 o heffrod amnewid yn flynyddol, a 80 o fuchod stôr a werthir yn y farchnad da byw. Mae’r teulu hefyd yn cadw diadell o 250 o famogiaid ‘Suffolk X’ a ‘Mule’ gyda’r holl ?yn yn cael ei gwerthu ar y bachyn.

Mae’r diwydiant llaeth yng Nghymru yn parhau i fod yn anhapus dros ben gyda’r prisiau isel parhaol a’r proffidioldeb gwael, ac mae’r Undeb yn bryderus iawn fod adferiad byd-eang pris y farchnad yn bell iawn i ffwrdd oherwydd yr anghydbwysedd parhaus yn y cyflenwad a’r galw amdano.

Ar ôl yr ymweliad dywedodd Mr Parry: “Mae’r prisiau isel sy’n bodoli ar hyn o bryd yn anghynaladwy a bydd y diwydiant yn gweld hyd yn oed mwy o gwymp yn nifer y cynhyrchwyr gan fod hyd yn oed y rhai mwyaf proffidiol yn ei chael yn anodd goroesi yn y farchnad bresennol.

“Mae’r penderfyniad felly gan ‘First Milk’ i ohirio sieciau llaeth am bythefnos yn dod ar amser pan mae llawer o gynhyrchwyr llaeth mewn trafferthion yn dilyn misoedd ar fisoedd o brisiau isel amhroffidiol.  Mae’r oedi yma yn codi pryderon pellach am y ffordd orau i ddelio gydag anwadalrwydd y farchnad laeth byd-eang a’i effaith ar hyfywedd ffermydd llaeth yng Nghymru.”

Ychwanegodd Swyddog Gweithredol Sirol UAC Sir Gaernarfon, Mr Gwynedd Watkin: “ Mae ffermwyr llaeth Cymru ymysg y gorau yn y byd ond eto mae’r llaeth yn parhau i gael ei ddibrisio gan yr archfarchnadoedd.  Mae hyn yn anghyfiawnder i’r cynhyrchwyr llaeth sy’n hollol ymroddedig at gynhyrchu rhywbeth mor werthfawr. Rydym yn ddiolchgar iawn ein bod wedi cael y cyfle heddiw i drafod y mater gyda’n Aelod Cynulliad lleol.”