gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
Ni fyddai’n bosib ysgrifennu Cornel Clecs y mis hwn heb gyfeirio at Dai Llanilar. Fel un o blant yr 80au, gwylio Cefn Gwlad ar S4C fyddai’r hanner awr euraidd bob wythnos. Sicrhau bod swper wedi gorffen, a fiw i neb ffonio adeg Cefn Gwlad, byddai’r ffôn yn cael ei gadael i ganu!
Un o’r troeon diwethaf i mi weld Dai oedd mewn maes parcio yn Aberystwyth cyn cyfnod Covid. Roedd yn eistedd yn y Discovery yn aros i Olwen ddychwelyd o siopa, ac er nad oeddwn wedi ei weld ers tro cyn hynny, wyddech chi byth o hynny, oherwydd roedd y sgwrs mor ffres a petai ni wedi gweld ein gilydd y diwrnod cyn hynny.
Un o rinweddau anwylaf Dai oedd wastad gofyn am y teulu, ac am eiliad byddech yn anghofio eich bod yn siarad ag un o gewri byd darlledu Cymru. Diolch Dai am fod yn ffrind i bawb ac am sicrhau bod ffermio a chefn gwlad wastad yn cael y sylw cyntaf, hyrwyddwr cefn gwlad heb ei ail, dim ond un Dai Llanilar fydd.
Mae’n ddiddorol darllen teyrnged Elin Jones AS Ceredigion i Dai ar dudalen 4 wrth iddi gyfeirio at y ffordd y byddai Dai’n dadlau achos y ffermwr, yn enwedig y rhai ifanc, ac ymfalchïai Dai yn llwyddiannau bobl ifanc gyda balchder mawr.
Ar y penwythnos pan fu farw Dai, cynhaliwyd y gystadleuaeth Cân i Gymru, ac mae’n briodol tu hwnt mae mab fferm o Sir Drefaldwyn oedd enillydd haeddiannol eleni.
Mae’r ymadrodd ‘Dyfal donc a dyr y garreg’ yn hollol wir i Rhydian Meilir Pughe o Gemaes gan iddo gystadlu a chyrraedd rhestr fer y gystadleuaeth yn 2012, 2019 a 2020, ond 2022 oedd blwyddyn Rhydian wrth i’w gân, a berfformiwyd ar y noson gan Ryland Teifi ‘Mae Yna Le’ ddod i’r brig.