gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
Mae pob bugail neu fugeiles yn gorfod dibynnu’n llwyr a rhoi ffydd ac ymddiriedaeth 100% yn y berthynas gyda chi defaid y fferm. Mae ci defaid da yn hanfodol i waith beunyddiol y fferm, gan fod yna leoliadau anghysbell ar bob fferm na fedr cerbyd pedair olwyn fynd iddo. Ond weithiau mae’r berthynas yn datblygu cystal nes bydd bugail yn mentro i fyd hyfforddi a gwerthu cŵn defaid. A dyma yw hanes aelod ifanc o Geredigion, Rhys Griffiths, sy’n mwynhau cryn dipyn o lwyddiant yn y maes hwn yn ddiweddar.
Mae Rhys wedi datblygu diddordeb brwd mewn hyfforddi cŵn defaid, ond lle dechreuodd y diddordeb? Dyma Rhys i esbonio mwy: “Cafodd fy niddordeb mewn cŵn defaid ei wreiddio yn fy magwraeth - roedd cŵn defaid yn cael eu defnyddio ar y ffarm adref ar gyfer y gwaith bob dydd. Ers yn ifanc iawn bûm yn gwylio fy nhad, Idwal Glant yn hyfforddi nifer o gŵn defaid yn y cae ger y tŷ. Roedd Mam hefyd yn defnyddio cŵn defaid yn ei gwaith hithau bob dydd ar y fferm. Roeddwn yn mwynhau mynd gyda Dad i arwerthiant cŵn defaid yn Bala, Pontsenni ac yn Skipton, a dim ond tyfu mae’r diddordeb wedi gwneud ers hynny.
“Erbyn hyn, mae’r cŵn defaid yn rhan allweddol o fy mywyd ac rwyf wedi magu blas ar eu hyfforddi a’u gwerthu dros y blynyddoedd diwethaf.”