FUW yn annog eu haelodau i wneud apwyntiad SAF 2019

Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto wrth i ni ddechrau meddwl am Ffurflenni’r Cais Sengl (SAF). Mae ffenestr y cais yn agor dydd Llun 4 Mawrth ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn atgoffa ei haelodau bod staff y sir yn barod i helpu a chymryd y baich o lenwi'r ffurflen.

Mae'r FUW yn darparu'r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn i’w holl aelodau fel rhan o'u pecyn aelodaeth, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i filoedd o aelodau dros y blynyddoedd - gan arbed amser ac osgoi’r pen tost o waith papur.

FUW yn siomedig gyda dyfarniad Comisiynydd Gwybodaeth yn dilyn Llywodraeth Cymru yn rhyddhau manylion fferm

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn siomedig gyda dyfarniad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth nad oes angen ‘gweithredu ymhellach’ yn dilyn Llywodraeth Cymru yn rhyddhau manylion personol ffermydd yn ddamweiniol.

Cafodd enw a lleoliad y ffermydd hynny a ddewiswyd ar gyfer difa moch daear fel rhan o Raglen Dileu TB Gwartheg newydd Llywodraeth Cymru eu rhyddhau yn ddamweiniol gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf y llynedd yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth.

Yna cafodd y wybodaeth hon ei roi ar gyfryngau cymdeithasol gyda rhai eithafwyr gwrth-ddifa yn galw am ymgymryd ag ymddygiad a allai fod wedi bygwth diogelwch teuluoedd ffermio.

Dywedodd Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi FUW: "Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi dulliau gweithredu ar waith i leihau'r tebygrwydd y bydd y camgymeriad hwn yn digwydd eto ac rydym yn gobeithio bod yna wersi wedi cael eu dysgu.

"Fodd bynnag, mae’r diffyg ymateb mwy cadarn gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ddim yn lleddfu’r posibilrwydd o hyn yn digwydd eto yn y dyfodol.

“Roedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod rhyddhau’r fath wybodaeth yn fwriadol neu'n anfwriadol yn debygol o arwain at dargedu gan eithafwyr hawliau anifeiliaid, gan gynnwys gweithgarwch anghyfreithlon a bod bygythiadau'n cael eu gwneud.”

Dywedodd Dr Wright y dylid cofio hefyd bod llawer sy’n cadw gwartheg yng Nghymru yn parhau i weithredu eu busnesau o dan nifer o reolaethau TB beichus a chostus, a bod ffermwyr yn gallu derbyn cosbau ariannol am gamgymeriadau neu ffactorau sydd wirioneddol allan o’i rheolaeth.

"Yn naturiol, byddai ffermwyr yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gael eu trin yn yr un modd, camgymeriad ai peidio.

"Mae'r FUW yn bryderus iawn, heb fesurau cadarn i ddiogelu teuluoedd ffermio, bydd y rhai sy’n cadw gwartheg yng Nghymru yn parhau i gael eu gosod mewn sefyllfa fregus.

"Rydyn ni wedi gwneud ein sefyllfa ar y mater hwn yn glir i swyddogion Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro," meddai Dr Wright.

Mae FUW yn parhau i fod yn rhwystredig iawn ac yn poeni ynglŷn â phorth gwybodaeth TB sy’n agored ar hyn o bryd ac wedi ysgrifennu sawl gwaith at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynglŷn â hyn.

"Mae’r ffaith bod ffermwyr gwartheg yn agored i gael eu poeni gan grwpiau gwrth-ddifa bellach wedi'i gofnodi'n dda. Mae'r defnydd cynyddol o gyfryngau cymdeithasol wedi darparu porth ar gyfer lledaenu gwybodaeth yn gyflym, rhad a chyffredin. Byddwn yn parhau i bwyso am gael mynediad cyfyngedig i wybodaeth TB er mwyn sicrhau bod teuluoedd ffermio'n cael eu diogelu rhag gwarcheidwadaeth ac ymddygiad bygythiol gan eithafwyr hawliau anifeiliaid," ychwanegodd Dr Wright.

Diwedd

Iechyd meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth i FUW

Mae iechyd meddwl, neu broblemau iechyd meddwl, yn fater sy'n effeithio’n fawr ar y gymuned amaethyddol ac mae’n ffaith bod unigrwydd ac unigedd cymdeithasol yn gallu arwain at broblemau iechyd meddwl.

Mae’r rhai hynny sy'n gweithio yn y sector amaethyddol, fel yr FUW yn dod i gysylltiad rheolaidd â phobl sy’n unig ac yn debygol o ddioddef problemau iechyd meddwl, ac yn sgil hyn, yn Sioe Frenhinol Cymru 2017, addawodd yr Undeb i godi ymwybyddiaeth ymhellach o broblemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig.

Fel cyflogwr, aethpwyd a’r addewid yna un cam ymhellach yn ddiweddar pan  gafodd staff yr Undeb gyfle i gymryd rhan mewn hyfforddiant ar iechyd meddwl o dan arweiniad Emma Picton-Jones o’r DPJ Foundation.

Roedd y cwrs hyfforddi dau ddiwrnod yn canolbwyntio ar wahanol elfennau o iechyd meddwl, y symptomau a’r arwyddion o rywun yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ac yn edrych ar sut i helpu rhywun a phroblemau iechyd meddwl, iselder ysbryd, pryder a seicosis.

"Mae iechyd meddwl yn broblem i bob gweithle a gweithlu ac rwy'n falch o ddweud bod ein staff nawr wedi derbyn yr hyfforddiant priodol, a fydd yn eu helpu nhw i helpu eraill sydd â phroblemau iechyd meddwl, megis iselder, pryder a seicosis.

“Mae FUW yn cymryd ei ymrwymiad i feithrin iechyd meddwl da o ddifrif, yn enwedig gan fod ein hymwybyddiaeth o'r risgiau i ffermwyr yn dod yn fwy amlwg," meddai Alan Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr FUW.

Gwledd o Frecwastau ym Meirionnydd i Godi Arian Hanfodol i Elusennau

Mae ffermwyr Meirionnydd yn eich gwahodd i ymuno â hwy am frecwast, fel rhan o ymgyrch brecwast Undeb Amaethwyr Cymru (UAC), gyda’r nod o hyrwyddo cynnyrch premiwm safonol lleol mae ffermwyr yn ei dyfu i ni bob dydd o’r flwyddyn.

Cynhelir y brecwastau ar Mawrth, 22ain Ionawr yn Tŷ Mawr, Carrog, Corwen; Iau, 24ain Ionawr yng Nghanolfan Pennal, Machynlleth; Gwener, 25ain Ionawr yn Fedw Arian Uchaf, Y Bala a Sadwrn, 26ain Ionawr yn Bryn Uchaf, Llanymawddwy, Dinas Mawddwy.

Bydd y brecwastau yn cychwyn am 8.30yb ag yn costio £10.00, gyda’r holl elw yn cael ei rannu rhwng Alzheimer’s Cymru a Farming Community Network.

“Gobeithiaf bydd llawer iawn ohonoch yn medru ymuno â ni am frecwast.  Rydym am ichi fod yn rhan o’n gweithgareddau, a siario ein meddylfryd a’n pryderon am gyflwr y diwydiant amaethyddol, wrth rannu eich storïau a’n helpu ni i ddeall sut allwn roi cymorth i’n gilydd, a pha ffordd well i wneud hynny nag i eistedd wrth y bwrdd yn rhannu bwyd o ansawdd a chwpaned o de.” meddai Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sirol UAC Meirionnydd.

I fwcio eich sedd wrth y bwrdd brecwast, cysylltwch â’r tîm ar 01341 422298.

 

Ffermwyr Sir Gaernarfon yn edrych ymlaen at Wythnos Brecwast Ffermdy

Unwaith eto mae cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at hyrwyddo’r bwyd gwych a gynhyrchir yng Nghymru a phwysleisio’r manteision o fwyta brecwast iach yn ystod Wythnos Brecwast Ffermdy (Ionawr 21 - Ionawr 27).

Cynhelir amrywiaeth o frecwastau yn Sir Gaernarfon, felly beth am ymuno ac un o’n 7 brecwast sydd wedi cael eu trefnu ar gyfer y dyddiadau canlynol:

Llun 21 Ionawr yn Nhy’n Hendre, Tal-y-bont, Bangor a Cefn Cae, Rowen, Conwy

Mercher, 23 Ionawr yng Nglynllifon, Grŵp Llandrillo Menai, Ffordd Clynnog, Caernarfon

Iau, 24 Ionawr yn Gwythrian, Uwchmynydd, Aberdaron     

Gwener, 25 Ionawr  yn Nhylasau Uchaf, Padog, Betws y Coed, a Caffi Anne, Bryncir

Sadwrn, 26 Ionawr ar Fferm Crugan, Llanbedrog, Pwllheli

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaernarfon Gwynedd Watkin: "Rwy'n edrych ymlaen at ein brecwastau ffermdy bob blwyddyn. Gallwn ni ddechrau'r diwrnod gyda'n gilydd mewn modd positif ac iach, a chodi arian ar gyfer ein hachosion elusennol, Cymdeithas Alzheimer Cymru a FCN ar yr un pryd.  Dros y 9 mlynedd diwethaf, mae brecwastau Sir Gaernarfon yn unig wedi codi dros £45,000 ac rydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiad llwyddiannus arall eleni. Mae dechrau iach, nid yn unig yn dda i’r galon ond hefyd i feddwl iach.  Mae yna ddywediad, Bwytewch frecwast fel Brenin

Cysylltwch â'r ffermydd yn uniongyrchol neu swyddfa'r sir yng Nghaernarfon i drefnu amser i chi fynychu unrhyw un o'r brecwastau.  Y gost fydd £10 y pen, a bydd yr holl elw’n cael ei rannu rhwng Cymdeithas Alzheimer Cymru a’r FCN.

"Rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonoch yn gallu ymuno â ni am frecwast. Edrychwn ymlaen at eich croesawu a chael cyfle i rannu eich meddyliau a'ch pryderon am gyflwr y diwydiant.  Rhannwch eich straeon gyda ni a helpu ni i ddeall sut y gallwn ni helpu ein gilydd, a pha ffordd well o wneud hynny nag o amgylch bwrdd dros baned o de wrth werthfawrogi bwyd gwych," ychwanegodd Gwynedd Watkin.

Am ragor o wybodaeth ar sut i archebu eich lle wrth y bwrdd brecwast, cysylltwch â swyddfa Sir Gaernarfon ar 01286 672541.

Rhaid i ddiogelwch fferm barhau i fod yn flaenoriaeth i’r diwydiant

Mae angen i ffermwyr a'r rheiny sy'n gweithio o fewn y diwydiant amaethyddol sicrhau bod diogelwch fferm yn parhau yn flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a’u bod nhw’n cydymffurfio â'r rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol, rhybuddia Undeb Amaethwyr Cymru.

Daw’r rhybudd yn sgil yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn atgoffa pawb y bydd rhaglen o arolygiadau yn adolygu safonau iechyd a diogelwch ar ffermydd ar draws y wlad, ac y bydd yr arolygiadau'n dechrau'n fuan.

Yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, bydd yr arolygiadau'n sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am amddiffyn eu hunain a’u gweithwyr yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn atal marwolaeth, anafiadau ac afiechyd. Os nad ydyn nhw, ni fydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn meddwl dwywaith cyn gweithredu er mwyn sicrhau bod gwelliannau yn digwydd.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Meirionnydd Huw Jones, sy'n cynrychioli UAC ym Mhartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru: "Cafodd 33 o bobl eu lladd mewn amaethyddiaeth ledled Prydain yn 2017/18 - tua 18 gwaith yn fwy na'r gyfradd anafiadau angheuol yn y diwydiant.

"Mae hynny'n golygu bod 33 o deuluoedd wedi colli un annwyl iddynt. Rydym hefyd yn gwybod bod bron i un person yr wythnos wedi cael ei ladd o ganlyniad uniongyrchol i waith amaethyddol yn ystod y deng mlynedd diwethaf, ac mae llawer mwy wedi cael eu hanafu'n ddifrifol neu’n dioddef o salwch o ganlyniad i’w gwaith. Mae ystadegau pellach yn dangos bod bron i hanner y gweithwyr amaethyddol a laddwyd dros 65 oed.

"Nid yw bywyd byth yr un fath eto i aelodau'r teulu yn sgil marwolaeth sy'n gysylltiedig â gwaith, neu i'r rhai sy'n gofalu am rywun â salwch hirdymor neu anaf difrifol a achosir gan eu gwaith.

"Gyda hyn mewn golwg, mae'r Undeb yn parhau i fod yn ymrwymedig i dynnu sylw at arferion gwell i helpu ffermwyr i osgoi damweiniau neu ddamweiniau fferm angheuol, ond ni ellir pwysleisio digon mai'r person sy'n gyfrifol am ddiogelwch fferm yw'r person hwnnw.

"Mae yna rai enghreifftiau gwael o ran diogelwch fferm ymhlith y cyhoedd, felly wrth i chi ddechrau blwyddyn newydd ar y fferm – gwnewch adduned i’ch hunan a’ch cyd weithiwr, i gadw pawb yn ddiogel.”

Diwedd