Dathlu’r tractor fel darn o gelf ar gyfer y cenedlaethau i ddod

Dathlu’r tractor fel darn o gelf ar gyfer y cenedlaethau i ddod

gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg

Rwy’n mynd a chi ar drywydd hollol wahanol mis yma yng Nghornel Clecs! I fyd sy’n hollol ddieithr i fi i fod yn onest! I un sydd ddim yn artistig o gwbl, mae’r byd Celf ac Arlunio wastad wedi fy rhyfeddu a meddwl yn aml, o le daw ysbrydoliaeth arlunydd i fynd ati i greu darn o gelf.  

Un sydd wedi dod i sylw Cornel Clecs yn ddiweddar yw Stephen Owen, arlunydd o ogledd Ceredigion sy’n comisiynu gwaith celf ar hoff gerbyd y cwsmer a hwnnw wedyn yn cael ei baentio ar gefndir sy’n seiliedig ar dirwedd sy’n arbennig iddynt. Mi ddaliodd un darn o waith penodol, ‘On a Roll!’ (gweler yn y llun uchod) ein sylw, sy’n dangos tractor cymydog Stephen yn erbyn cefndir uwchben aber y Ddyfi, ac yn ceisio portreadu’r brys o gasglu bêls cyn y glaw.

Ond beth arall sy’n ysbrydoli Stephen a’i waith, a faint o ddylanwad yw’r byd amaethyddol arno? Cafodd Cornel Clecs y cyfle i’w holi yn ddiweddar:

Beth yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer eich paentiadau?

Tra bod yna lawer o Artistiaid Modurol trawiadol, gwaith trawiadol Tom Purvis (DU), A.M. Cassandre (Ffrainc) ac artistiaid poster Art Deco eraill o’r 1930au, sydd o ddiddordeb i mi. Mae natur Poster Art Deco wastad wedi fy swyno gyda’r llinellau syml a’r lliwiau trawiadol, ac yn benodol, themâu trafnidiaeth, lle mae symudiad a chyflymder yn cael eu cyfleu trwy ychydig o linellau syml.

A yw amaethyddiaeth a cherbydau amaethyddol bob amser wedi chwarae rhan bwysig yn eich gwaith?

Nid yn arbennig ond, fel dylunydd, rwyf bob amser wedi rhyfeddu at beiriannau amaethyddol a’r ffordd y mae dyluniad wedi esblygu i wneud y gwaith. Er nad oes gennyf ddiddordeb mewn peintio tractor segur yng nghornel cae, rwyf yn cyffroi pan fyddaf yn gweld un ac yn tynnu llun ohono. Mae’n debyg fy mod yn parchu’r peiriannau gwych hyn o’r gorffennol sy’n rhagflaenwyr offer fferm heddiw.

O safbwynt artistig, pa mor bwysig yw aber Afon Dyfi a’r cyffiniau yn eich gwaith?

Pan oeddwn yn fachgen yn tyfu i fyny yn y Drenewydd byddwn yn dod ar y trên i’r arfordir yn ystod fy ngwyliau ysgol ac yn pwyso allan drwy’r ffenest i werthfawrogi’r olygfa. Mae fy nghariad at y rhan yma o Gymru yn mynd yn ôl yn bell a dwi byth yn blino arno. Mae edrych allan dros aber Afon Dyfi lle rydw i’n byw nawr yn ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth. Mae fy narlun diweddaraf, ‘On a Roll’ yn dangos ein cymydog yn cario bêls allan o’n cae gyda’r bryniau’n codi uwchben yr aber. Mae hyn yn cyfleu hanfod bywyd ar y tir fel y mae’n digwydd reit o’m mlaen.

Beth mae amaethyddiaeth yn ei olygu i chi?

Roedd fy mam yn meddwl y byddwn i’n ffermio rhyw ddiwrnod gan fy mod wedi cael fy nenu erioed at ffordd o fyw ffermio. Roedd holl deulu a pherthnasau fy nhad yn ffermwyr. Roedd fy nhaid yn gofalu am geffylau fferm yn ardal Llanidloes. Rwy’n byw yng nghanol diwydiant sy’n gweithio rownd y cloc ac yn gwerthfawrogi’r ymroddiad a’r gwaith caled sy’n mynd i mewn i ffermio’r tir a darparu ein bwyd. Mae syniadau rhamantaidd am ffyrdd o fyw yn mynd yn ddibwys wrth sylwi ar y gwaith caled a’r tasgau y mae ffermwyr yn eu hwynebu’r dyddiau hyn. 

Mewn rhyw ffordd fach rwy’n gobeithio gyda fy steil celf bop o beintio y gallaf dynnu sylw at y tractor fel symbol o ffermio a chodi proffil gweithio’r tir er lles pob un ohonom. Byddwn wrth fy modd yn gwneud mwy o luniau o hoff dractor pobl yn eu hoff le gan fod pob teulu ffermio fel arfer yn deyrngar i un gwneuthuriad o dractor. Mae’n dangos pa mor gysylltiedig yw ffermwyr â’u tractor.  

Mae cymaint o straeon a llawer o hanes teuluol yng nghrombil y peiriannau gwych hyn, felly beth am ddathlu’r tractor fel darn o gelf ar gyfer y cenedlaethau i ddod?

Mae darllen am waith Stephen yn hynod o ddiddorol ac yn pwysleisio faint o ysbrydoliaeth yw’r hyn sydd o’n cwmpas ni gyd i wahanol agweddau o’n bywyd. Yn sicr mae amaethyddiaeth yn cyffwrdd bywydau pobl o bob cefndir a gwaith, ac yn ysbrydoliaeth arbennig.  

Pob hwyl i Stephen gyda’i waith yn y dyfodol, a phwy a ŵyr, efallai mai’ch tractor chi fydd ar gynfas nesaf!

Os hoffech gysylltu gyda Stephen ei gyfeiriad e-bost yw: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.