Yr wybodaeth ddiweddaraf am ofynion cofrestru gorfodol newydd ar gyfer ceidwaid adar

Cafodd mesurau newydd yn gofyn bod ceidwaid adar yn cofrestru eu hadar yn swyddogol, beth bynnag yw maint eu haid, eu cyhoeddi ar 19 Mawrth 2024. 

Ar hyn o bryd, dim ond ceidwaid gyda mwy na 50 o adar sy’n gorfod cofrestru eu haid. 

Bydd y newidiadau a gyhoeddwyd yn gwneud hi’n orfodol i geidwaid, beth bynnag yw maint eu haid, i gofrestru eu hadar yn swyddogol cyn y dyddiad cau, sef 1af Hydref yng Nghymru (a Lloegr), gyda cheidwaid yn yr Alban yn gorfod cofrestru cyn1af Medi 2024.  Bydd ceidwaid hefyd dan ofyniad cyfreithiol i ddiweddaru eu gwybodaeth yn flynyddol.

Mae’r rheoliadau’n berthnasol i bob math o ddofednod, gan gynnwys ieir, hwyaid, tyrcwn, gwyddau, colomennod (a fegir am eu cig), cetris, adar gwastatfron (ratites), ieir gini a ffesantod.  Fodd bynnag, mae adar anwes fel bwjis, parotiaid a rhywogaethau tebyg sy’n byw yn y cartref ac yn methu â mynd allan i’r awyr agored wedi’u heithrio rhag y gofynion cofrestru newydd.

Trwy gofrestru, bydd Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn gallu cysylltu â cheidwaid os bydd yna achos/achosion o glefyd (megis ffliw adar neu glefyd Newcastle) yn eu hardal.  Bydd gwella’r cyfathrebu a sicrhau bod ceidwaid yn derbyn diweddariadau pwysig am achosion o glefydau, a gwybodaeth am reolau bioddiogelwch, yn helpu i amddiffyn heidiau rhag clefydau yn y dyfodol, a fydd yn ei dro yn helpu i fonitro rheolaeth a lledaeniad clefydau adar hysbysadwy yng Nghymru a ledled y DU.

Gall ceidwaid fynd ati’n wirfoddol i gofrestru heidiau neu adar caeth eraill, gan gynnwys unrhyw rai a gedwir fel adar anwes, cyn 1af o Hydref drwy:

Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerdydd

Cromlin West

Parc Busnes Cardiff Edge

Longwood Drive

Yr Eglwys Newydd

Caerdydd

CF14 7YU

This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Mae ffurflenni cais ar gael ar y wefan Dofednod ac adar caeth eraill:  rheolau a ffurflenni cofrestru neu isod: