Galw ar Ddiedyll yng Nghymru i ymuno â’r prosiect geneteg RamCompare

Mae prawf hiliogaeth mwyaf blaenllaw y DU ar gyfer bridio hyrddod da i gynhyrchu ŵyn, sef RamCompare, wrthi’n galw ar ffermydd defaid masnachol ledled Cymru i ymuno â’r prosiect, i gefnogi ei ymgyrch i wella geneteg defaid ledled y wlad.

Mae RamCompare yn cael ei ariannu ar y cyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) ac AHDB ac mae’n gweithio gyda phartneriaid ar draws y gadwyn gyflenwi i gyflymu’r broses o wella geneteg o fewn diwydiant defaid y DU.  Mae’r prosiect yn darparu data o ffermydd masnachol a chofnodion lladd-dai i wneud gwerthusiadau genetig, a ddarperir gan Signet Breeding Services.

Bydd y ffermydd newydd yn ymuno â’r prosiect cyn tymor paru 2024 a byddant yn cymryd rhan am ddau dymor magu.  Mi fydd angen i’r diedyll fodloni set o feini prawf, gan gynnwys cadw o leiaf 300 o ddefaid magu unffurf, a bod â statws gwybyddus o ran iechyd y ddiadell.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r prosiect RamCompare gallwch  lawrlwytho’r ffurflen gais drwy glicio yma a dychwelyd y ffurflen i This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. erbyn Dydd Gwener 3ydd Mai 2024.