Gweithlyfrau Digidol y Cynllun Rheoli Maethynnau

Mae gweithlyfr ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a fydd yn eich helpu i fodloni gofynion cadw cofnodion y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.

I gynorthwyo gyda gofynion y Cynllun Rheoli Maethynnau mae’r gweithlyfr ar gael ar

: https://www.llyw.cymru/rheoliadau-adnoddau-dwr-rheoli-llygredd-amaethyddol-cymru-2021-gweithlyfr-fferm

Nid oes rhaid ichi ddefnyddio'r gweithlyfr hwn. Ond mae'n rhaid ichi sicrhau:

  • bod y cyfrifiadau gofynnol wedi'u gwneud
  • eich bod yn gallu darparu cofnodion pan ofynnir amdanynt at ddibenion arolygu

Mae arweiniad pellach i ffermwyr ar Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar gael ar: https://www.llyw.cymru/rheoliadau-adnoddau-dwr-rheoli-llygredd-amaethyddol-cymru-2021-canllawiau-ar-gyfer-ffermwyr

Mae ystod o gymorth ar gael gan Cyswllt Ffermio ar gyfer y Rheoliadau  Rheoli Llygredd Amaethyddol, gan gynnwys arweiniad ar gwblhau’r gweithlyfr digidol a gofynion eraill y rheoliadau.  Ewch i wefannau cyswllt ffermio ar gyfer yr adnoddau a’r wybodaeth ddiweddaraf: www.gov.wales/farmingconnect/cy 

Mae cymorth technegol pellach ar Gynlluniau Rheoli Maethynnau ar gael hefyd ar y Llinell Gymorth Rheoli Llygredd Amaethyddol sy’n cael ei rhedeg gan ADAS ar: 01974 847 000