Taliadau Ffermio Organig yn 2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yna daliadau cymorth ar gyfer ffermwyr organig sydd wedi’u hardystio’n llawn yn 2024.

Bydd y Taliad Cymorth Organig yn rhoi cymorth i ffermwyr organig sydd wedi'u hardystio'n llawn yn ystod y cyfnod pontio cyn gweithredu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Gwneir ceisiadau am y Taliad drwy'r Ffurflen Gais Sengl, sydd i'w chyflwyno erbyn 15 Mai 2024. Bydd y Taliad ar gael i bob ymgeisydd organig sydd wedi'i ardystio'n llawn, ac nid dim ond i'r rhai a oedd yn rhan o Gynllun Organig Glastir blaenorol. 

Mae Cymorth Organig 2024 yn darparu taliad fesul hectar ar gyfer tir cymwys ac mae ar gael i gynhyrchwyr amaethyddiaeth organig presennol ledled Cymru sy'n cynnal ardystiad organig llawn yn ystod 2024.

Bydd y cyfraddau talu yn seiliedig ar ddefnydd tir fel y'i cyflwynwyd ar eich SAF 2024.

 

Cyfradd Dalu

Disgrifiad

Taliad 

1.

Garddwriaeth

£300 / ha

2.

Tir wedi'i amgáu

£45 / ha

3.

Tir wedi’i amgáu gyda menter laeth

£115 / ha

4.

Tir sydd uwchben trothwy uchaf y tir amaethyddol sydd wedi’i amgáu.

£9 / ha

Am fwy o wybodaeth:

https://www.llyw.cymru/cymorth-organig-2024-crynodeb-html