UAC yn annog ffermwyr i fod y wyliadwrus yn sgil canfod y Tafod Glas yn Lloegr

Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n annog ei haelodau i fod yn wyliadwrus iawn yn sgil cadarnhau un achos o’r feirws Tafod Glas 3 (BTV3) mewn buwch ar eiddo ger Caergaint yng Nghaint, Lloegr ar 11 Tachwedd 2023.

Mae BTV yn glefyd estron hysbysadwy sy’n heintio anifeiliaid cnoi cil megis defaid a gwartheg, ac sy’n cael ei drosglwyddo gan bryfed sy’n pigo, sydd fwyaf gweithgar rhwng Ebrill a Thachwedd.

Nid yw’r gwaith olrhain cychwynnol wedi nodi unrhyw gysylltiad â Chymru mewn perthynas â’r anifail hwn.  Fodd bynnag, nid oes unrhyw frechlyn masnachol presennol yn erbyn BTV3 sydd wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio yn y DU, ac mae UAC felly yn annog ei haelodau i ystyried tarddiad unrhyw stoc a brynir, a’u defnydd o ardaloedd risg uchel yn Lloegr i gadw anifeiliaid dros y gaeaf.

Mae’n gadarnhad efallai o gadernid rhaglen gwyliadwriaeth BTV flynyddol Prydain bod yr un achos hwn wedi’i ganfod mewn anifail oedd heb ei fewnforio.   Mae canfod yr achos yn gynnar wedi caniatáu rhoi mesurau priodol yn eu lle i leihau’r perygl o drosglwyddo’r clefyd ymhellach yn Lloegr, ac mae’n cynnig rhywfaint o amddiffyniad i ffermwyr yma yng Nghymru.

Fel rhan o’r parth rheoli 10km dros dro, a sefydlwyd o amgylch yr eiddo sydd wedi’i effeithio, gosodwyd cyfyngiadau ar symud anifeiliaid allai ddal y clefyd.  Mae gwyliadwriaeth bellach ar droed hefyd i sicrhau mai hwn yw’r unig achos o’r clefyd.

Er nad yw’r feirws hwn yn effeithio ar bobl na diogelwch bwyd, mae deall y peryglon sy’n gysylltiedig â phrynu stoc yn hanfodol, oherwydd gall effaith y clefyd hwn ar dda byw amrywio i raddau helaeth iawn.  Ni fydd rhai anifeiliaid yn dangos unrhyw arwyddion clinigol o’r haint ond mi all fod yn farwol mewn rhai achosion difrifol.

Gyda seroteip BTV1, 2, 4 ac 8, mae brechlyn yn bosibl, a dylai aelodau drafod yr opsiynau gorau ar gyfer diogelu eu stoc gyda’u milfeddyg.  Nid yw’r brechlynnau’n cynnig croesddiogelwch, felly ni fydd brechu yn erbyn y seroteipiau BTV hyn yn diogelu stoc rhag BTV3.

Gall BTV ledaenu’n gyflym ymhlith anifeiliaid cnoi cil a gall arwain at golledion cynhyrchu sylweddol.  Ochr yn ochr â phrynu stoc o ffynonellau cyfrifol, gwyliadwriaeth yw’r ffordd orau o atal y clefyd hwn rhag lledaenu, ac mae UAC yn annog ei haelodau felly i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod ar unwaith os ydyn nhw amau achos o’r clefyd.