Ffermwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus yn dilyn achos o’r Tafod Glas yn Lloegr

Ar 11 Tachwedd, cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol y DU un achos o feirws y Tafod Glas (BTV-3) mewn buwch ar eiddo ger Caergaint yng Nghaint, Lloegr.

Cafodd y clefyd ei ganfod gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a’r Pirbright Institute drwy raglen flynyddol gwyliadwriaeth Tafod Glas Prydain. 

 Mae camau’n cael eu cymryd i leihau’r perygl o ledaeniad.  Gosodwyd cyfyngiadau ar symud anifeiliaid o’r eiddo sydd wedi’i effeithio, a bydd y fuwch yn cael ei difa’n drugarog i leihau’r perygl o basio’r clefyd ymlaen.

Mae parth rheoli dros dro (TCZ) o 10km wedi’i sefydlu o amgylch yr eiddo heintiedig, a fydd yn cyfyngu ar symudiadau anifeiliaid a allai ddal y clefyd, ac eithrio dan drwydded.  Nid yw’r Tafod Glas yn effeithio ar iechyd y cyhoedd nac ar ddiogelwch bwyd.   Caiff y feirws ei drosglwyddo pan fydd gwybedyn yn pigo’r anifail ac mae’n effeithio ar fuchod, geifr, defaid a chamelidau eraill megis lamas.  Mae’r gwybed yn fwy gweithgar rhwng Ebrill a Thachwedd ac nid yw pob anifail a allai ddal y clefyd yn dangos arwyddion ar unwaith, neu unrhyw arwyddion o gwbl eu bod wedi dal y feirws.  Gall yr effeithiau ar anifeiliaid a allai ddal y clefyd amrywio’n fawr – ni fydd unrhyw symptomau nac effeithiau i’w gweld yn rhai ohonynt, ond gydag eraill, gall achosi problemau cynhyrchedd megis cynhyrchu llai o laeth, tra bod yr achosion mwyaf difrifol yn gallu bod yn farwol i’r anifail sydd wedi’i heintio.

Mae rheolau llym ar symud da byw o ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gan y Tafod Glas eisoes yn eu lle, ac mae ffermwyr yn cael eu hatgoffa bod angen gwaith papur perthnasol ar gyfer unrhyw anifeiliaid sy’n dod o’r ardaloedd hyn, i ddangos yn glir eu bod yn bodloni amodau penodol a gynlluniwyd i leihau’r perygl o ledaenu’r clefyd, megis brechiad cywir.

Nid yw’r gwaith olrhain cychwynnol wedi nodi unrhyw gysylltiad â Chymru o’r achos hwn.  Fodd bynnag, rydym yn annog ceidwaid i gadw golwg am arwyddion o feirws y Tafod Glas, ac i roi gwybod ar unwaith os ydyn nhw’n amau achos o’r clefyd hysbysadwy hwn.