Gall opsiynau eraill yn lle plannu coed sicrhau gostyngiadau cyfwerth mewn allyriadau, medd UAC wrth gynhadledd Plaid Cymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi amlinellu sut y gall opsiynau amgen i blannu coed sicrhau gostyngiadau cyfwerth mewn allyriadau, gan hefyd sicrhau ystod eang o fuddion, a hynny yng nghynhadledd Plaid Cymru, a gynhaliwyd ddydd Gwener 6ed a dydd Sadwrn 7fed Hydref 2023, yn Aberystwyth.

Wrth gynnal y digwyddiad ymylol ddydd Gwener, 6ed Hydref 2023, tynnodd yr Undeb sylw at y ffaith mai un yn unig o blith nifer o ffyrdd o leihau allyriadau carbon net Cymru yw plannu coed.

Wrth gyflwyno’r ystadegau diweddaraf i’r cynadleddwyr, tynnodd UAC sylw at y ffaith bod cynhyrchu ynni yng Nghymru’n gyfrifol am 10,953,000 tunnell o allyriadau CO2 yn 2019. I wrthbwyso hyn, pwysleisiodd swyddogion yr Undeb, mi fyddai angen plannu coed ar tua 1.1 miliwn hectar o dir.

Pe bai holl allyriadau presennol Cymru yn cael eu gwrthbwyso drwy blannu coed, byddai hynny’n gofyn plannu coed ar arwynebedd o tua dwywaith maint Cymru.

Mae nifer o opsiynau eraill y gellir eu mabwysiadu ar ffermydd i sicrhau gostyngiadau cyfwerth mewn allyriadau, ac mae gan lawer o’r rhain fanteision niferus, nid yn unig i ffermydd unigol ond hefyd i’r gymdeithas yn gyffredinol yng Nghymru.

Gallai’r rhain gynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy, ffyrdd eraill o ddal a storio carbon, neu wella effeithlonrwydd da byw

Mae UAC am weld cynllun sy’n edrych ar ffermio a newid hinsawdd ar y cyd yn hytrach nag ar wahân. Er enghraifft, bydd plannu coed ac allforio’r bwyd a gynhyrchir gennym i wledydd sydd ag allyriadau a safonau amgylcheddol llawer gwaeth na Chymru yn gwneud pethau’n waeth ar lefel fyd-eang mewn gwirionedd.

Clywodd y cynadleddwyr, i nifer fawr o ffermydd, y byddai bodloni’r gofyniad o 10% o orchudd coed yn effeithio’n ddifrifol ar eu hyfywedd a’u gallu i gynhyrchu bwyd, tra byddai bodloni gofyniad o’r fath yn amhosibl i rai categorïau o ffermydd. O dan y cynigion presennol, byddai hyn yn eu hatal rhag cael mynediad at unrhyw fath o gymorth drwy'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae UAC yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nifer o fathau o ffermydd a chategorïau tir lle na fyddai’n bosibl cyrraedd y trothwy hwn, ond mae angen llawer mwy o gonsesiynau i sicrhau bod nifer fawr o fusnesau fferm yn osgoi effeithiau difrifol.

Mae plannu coed yn un yn unig o blith nifer o ffyrdd o leihau carbon net Cymru. Mae UAC am weld Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd â hyblygrwydd, fel bod ffermwyr yn gallu bod yn rhan o gynllun sy’n gweithio i’w busnesau ac yn sicrhau’r canlyniadau y mae Llywodraeth Cymru’n eu dymuno.

Hefyd, tynnodd UAC sylw at y ffaith bod cynlluniau Llywodraeth Cymru yn anelu at weld Cymru’n diwallu 100% o’i hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Fodd bynnag, wrth i’r galw am gerbydau trydan ac opsiynau eraill i danwydd ffosil gynyddu, mae’r galw am drydan hefyd yn cynyddu.

Amcangyfrifir y bydd hyn yn cynyddu’r galw am drydan yn y DU o tua 10% o’r lefelau cynhyrchu presennol erbyn 2030, gan godi i rhwng 20% ​​a 33% erbyn 2050, a bydd cynyddu’r lefelau cynhyrchu hydrogen, i’w ddefnyddio fel opsiwn arall i danwydd ffosil mewn rhai cerbydau, hefyd yn cynyddu’r galw am drydan (a ddefnyddir i greu hydrogen).

Clywodd y cynadleddwyr hefyd fod cyfraniad cyflenwi ynni i allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU a Chymru wedi gostwng 70% a 55% yn y drefn honno rhwng 1990 a 2020, gydag ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar dir ffermio’n chwarae rhan ganolog yn y gostyngiadau hyn.

Ers i Dariffau Cyflenwi Trydan gael eu dileu yn 2019, mae buddsoddiad ffermydd mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy wedi arafu’n sylweddol. Mae codi’r lefelau cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn hollbwysig, nid yn unig i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond hefyd i ddiogelu cyflenwad ynni Cymru a’r DU – mae pwysigrwydd hynny wedi’i amlygu gan ryfel Rwsia yn erbyn Wcráin.

Clywodd y cynadleddwyr y gallai neilltuo ardaloedd bach o dir, dibwys weithiau, ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy, wrthbwyso allyriadau carbon yn fwy effeithlon o lawer fesul uned o dir na phlannu coed, gan helpu i ddiogelu’r cyflenwad ynni ar gyfer ffermydd, cymunedau a Chymru gyfan.

Er bod plannu mwy o goed yn anorfod yn rhan o’r ateb i’r newid yn yr hinsawdd, mae UAC o’r farn bod y gofyniad gorchudd coed arfaethedig o 10% sydd i’w gyflwyno o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy o 2025 yn ateb un dimensiwn, sy’n methu â chydnabod rôl mesurau lliniaru eraill, a fyddai’n cael llawer llai o effaith ar ffermydd a’u gallu i gynhyrchu bwyd yng Nghymru, gan arwain at fanteision ehangach i’r wlad.