Arolwg o gostau’r Ffliw Adar

Mae arolwg yn cael ei gynnal gan Fera Science Ltd a DEFRA i bennu’r effeithiau ariannol a gafodd yr achosion o ffliw adar rhwng Hydref 2021 a Medi 2022 ar ddeiliaid adar y DU.

Mae’r costau a ymchwiliwyd fel rhan o’r arolwg hwn yn gysylltiedig â’r gorchymyn cadw dan do gorfodol, mesurau bioddiogelwch ychwanegol, yr incwm a gollwyd o adar marw ac adar gafodd eu difa, cyfyngu ar weithgarwch busnes, a chostau gweithredu uwch.

Mae’r arolwg yn cymryd 10-20 munud i’w gwblhau a chedwir eich manylion yn ddienw.

I gymryd rhan yn yr arolwg hwn ewch i:

https://animalplantimports.qualtrics.com/jfe/form/SV_1CfwwyaJmcFZtrw