Cyllid Sgiliau Cyswllt Ffermio

Agorodd y ffenestr ddiweddaraf i ymgeisio am gyllid sgiliau Cyswllt Ffermio ar 28ain Tachwedd 2022.

Mae cymhorthdal o hyd at 80% ar gael i unigolion cofrestredig ar gyfer yr holl gyrsiau hyfforddiant, gyda thros 20 o gyrsiau byr ar gael, wedi’u categoreiddio dan ‘Busnes’, ‘Tir’ a ‘Da Byw’, gan ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy ledled Cymru.

Mae ymgeisio am hyfforddiant sgiliau Cyswllt Ffermio yn broses ar-lein yn bennaf ond gallwch cael cymorth a chefnogaeth un i un os oes angen.

Os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru’n bersonol gyda chyfeiriad e-bost unigol a’ch bod yn bwriadu gwneud cais am hyfforddiant wedi’i ariannu, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.

Cyllid cyfyngedig sydd ar gael.  Y cyntaf i’r felin fydd hi o ran dyrannu cyllid.

Am fwy o wybodaeth ewch i: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/sgiliau-hyfforddiant/cyrsiau-hyfforddiant