Y Diweddaraf am System Amlrywogaeth EID Cymru

Gan ddod â’r systemau gwahanol ar gyfer gwartheg, defaid a moch at ei gilydd, mae Llywodraeth Cymru’n ehangu EID Cymru i greu’r system olrhain amlrywogaeth gyntaf yng Nghymru.  Gwnaed y cyhoeddiad ynghylch creu un system olrhain amlrywogaeth yn Rhagfyr 2018 ond mae cymhlethdodau a dibyniaeth ar ffactorau allanol wedi arwain at oedi cyn symud ymlaen â’r prosiect. 

Cyhoeddwyd adroddiad cynnydd yn ddiweddar ar wefan Llywodraeth Cymru ar y broses o ddatblygu EID Cymru i greu system olrhain amlrywogaeth newydd.

Roedd Cam 1 o’r datblygiad yn golygu diweddaru’r system Defaid, Geifr a Cheirw, a gwblhawyd yn Nhachwedd 2021.  Mae Cam 2 ar droed, sef datblygu system EID Cymru i ymgorffori’r holl adroddiadau ar gofrestriadau a symudiadau gwartheg. Mi fydd pob ceidwad ac eiddo yng Nghymru’n trosglwyddo o BCMS a CTS i EID Cymru.  Disgwylir y bydd hyn wedi’i roi ar waith erbyn diwedd 2023.

Bydd Cam 3 yn digwydd ar ôl cwblhau Cam 2 ac mi fydd yn ymgorffori’r holl adroddiadau ar symudiadau moch.

Bydd hanes diweddaraf y gwaith i’w weld yng nghylchlythyr Gwlad Llywodraeth Cymru.