UAC yn atgoffa’r Senedd bod angen i Fil Amaethyddiaeth (Cymru) ddiogelu incwm ffermydd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi galw eto am ychwanegu pumed amcan i Fil Amaethyddiaeth (Cymru) i sicrhau bod economeg a hyfywedd ffermydd wedi’i ymgorffori yn fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) Llywodraeth Cymru.  Trafodwyd yr angen am amcan yn ymwneud ag incwm ffermydd gan UAC mewn sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Bwyllgor Yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (ETRA) yng Nghaerdydd.

Croesawodd UAC y cyfle i roi tystiolaeth gerbron y pwyllgor.  Mae’r Bil hwn, os caiff ei ddylunio’n briodol, yn cynrychioli cyfle i ddatblygu polisïau ffermio sydd wedi’u teilwra i gwrdd ag anghenion y rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, gan osod y sylfaen i’r newid mwyaf o ran amaethyddiaeth yng Nghymru ers i’r DU ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Fel mae’n sefyll, mae’r amcanion a geir yn y Bil yn deillio’n gyfan gwbl o’r diffiniad o SLM a ddefnyddir gan y Cenhedloedd Unedig.  Mae’r diffiniad hwn yn nodi bod yn rhaid i’r defnydd o adnoddau tir i gynhyrchu nwyddau i gwrdd â gofynion dynol newidiol sicrhau potensial yr adnoddau hyn a’u buddiannau amgylcheddol dros y tymor hir ar yr un pryd.

Nid yw UAC yn gwrthwynebu’r diffiniad hwn fel y cyfryw, ond mae diffiniadau ehangach o SLM yn bodoli, ac mae Covid-19, y rhyfel yn Wcráin, a chostau cynyddol mewnforion yn parhau i ddangos bod yr egwyddor graidd o sicrhau cyflenwadau bwyd diogel yn parhau i fod yn ddilys.  

Mae’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru’n parhau i fod angen polisïau sy’n diogelu’r cyflenwad bwyd domestig a’r gallu i gynhyrchu bwyd, gan gydnabod rôl amaethyddiaeth yn helpu i gwrdd â nodau Cymru o ran newid hinsawdd, llesiant ac amrywiaeth ar yr un pryd.

Clywodd y Pwyllgor ymhellach fod amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy o arwyddocâd enfawr i’r sector amaethyddol yng Nghymru, am eu bod yn cynrychioli’r ideolegau a fydd yn sylfaen i’r cymorth ariannol a ddarperir yn y dyfodol drwy’r ddeddfwriaeth eilaidd sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Cynlluniwyd Deddf Amaethyddiaeth 1947 i sicrhau digon o fwyd fforddiadwy i fwydo’r DU mewn ffordd sy’n darparu incwm teg i ffermwyr a gweithwyr amaethyddol, ac enillion teg ar eu buddsoddiadau.  Yn yr un modd, lansiwyd PAC yr UE yn 1962, a oedd wedi’i gynllunio’n bennaf i sicrhau cyflenwad bwyd digonol a diogel.

Mae UAC o’r farn felly ei bod hi’n briodol bod y rhestr o amcanion SLM yn cael ei hymestyn i greu amcan sy’n mynd ati’n benodol i sicrhau sefydlogrwydd economaidd teuluoedd ffermio.  Yn wir, serch y naratif ynghylch cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, does dim gwobrau uniongyrchol am hynny ar hyn o bryd, na chwaith unrhyw wobrau uniongyrchol am gyflenwi bwyd diogel, olrheiniadwy o safon uchel, na diogelu’r cyflenwad bwyd domestig.

Heb gynnwys amcan o’r fath, gall polisïau dilynol ganiatáu darparu cynlluniau yn y dyfodol dan yr un fframwaith cyffredinol a grëwyd gan y Bil, heb osod unrhyw ymrwymiad ar Weinidogion Cymru i ofalu am hyfywedd ariannol a llesiant ffermwyr.

Mae UAC yn parhau i graffu a gwerthuso’r 500 tudalen o ddeddfwriaeth, y Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a bydd yn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ffurfiol yn amlinellu pryderon yr aelodau maes o law.

Bydd UAC yn parhau i weithio gydag Aelodau’r Senedd a’r Pwyllgorau perthnasol i sicrhau bod y Bil newydd yn gwarchod ac yn gwella ffermydd teuluol yng Nghymru.