UAC yn croesawu’r bwriad i ddiogelu’r uchafswm taliadau uniongyrchol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd cyllideb taliadau uniongyrchol 2022 yn cael ei chadw ar yr un lefel ag un 2020 a 2021.

Cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths ar 23 Rhagfyr 2021 y byddai uchafswm cyllideb taliadau uniongyrchol o £238 miliwn ar gael yn 2022, gan gyfateb i gyllideb 2020 a 2021.

Mae penderfyniad y Gweinidog yn cydnabod pwysigrwydd y gyllideb taliadau uniongrychol, nid yn unig i’r oddeutu 16,000 o fusnesau fferm sy’n dibynnu arni, ond hefyd y degau o filoedd o fusnesau eraill sy’n elwa o’r taliadau hyn.  

Bydd cannoedd o filoedd o drigolion Cymru sy’n cael ei cyflogi, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, o fewn cadwyni cyflenwi bwyd amaethyddol, yn elwa o’r arian.

Felly mae UAC yn croesawu’n fawr y ffaith bod y Gweinidog wedi cydnabod y pryderon a godwyd yn nhermau pwysigrwydd yr arian hwn, nid yn unig i deuluoedd ffermio, ond i gymunedau ehangach Cymru.

Serch hynny, mae UAC yn rhannu rhwystredigaeth a dicter Llywodraeth Cymru bod Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid i ddigolledu’n llwyr yr arian UE a gollwyd.

Mae ffermwyr Cymru eisoes wedi colli £137 miliwn o ganlyniad i adolygiad gwariant hydref 2020, ac yn Nhachwedd 2021, cyhoeddwyd y byddai’r gyllideb amaethyddiaeth yn cael ei chwtogi ymhellach, o £106 miliwn, o’i gymharu â’r hyn a addawyd.

Nid yw cyllidebau ffermio yr UE yn wynebu cwtogi o’r fath, ac eto cafodd ffermwyr Cymru addewid na fyddai unrhyw gwtogi yn sgil Brexit. Felly, mae UAC yn rhannu rhwystredigaeth a phryderon Llywodraeth Cymru – yn arbennig yng ngoleuni’r rhwystrau cynyddol rhag allforio bwyd o’r DU i’r UE, a’r bygythiad o du cystadleuwyr ledled y byd, p’un ai yn yr UE neu yn sgil cytundebau masnachu newydd.