HCC yn ail-lansio ei raglen ysgoloriaeth deithio

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi ail-lansio ei raglen Ysgoloriaeth Deithio ar gyfer unrhyw un sydd wedi’i gyflogi’n llawn-amser o fewn y sector cig coch.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn treulio hyd at chwe wythnos yn astudio agweddau penodol o’r sector cig eidion, defaid neu borc mewn gwlad o’u dewis nhw. Bydd angen i brosiect yr ysgoloriaeth ddangos sut y gall wneud cyfraniad parhaus i’r diwydiant.

I ymgeisio, rhaid i unigolion lenwi’r ffurflen gais ar wefan HCC cyn 11eg Chwefror 2022.

Os yn llwyddiannus, byddant yn derbyn hyd at £3,000 tuag at y daith. Yn gyfnewid am hynny, disgwylir iddynt gyflwyno adroddiad i HCC ar eu canfyddiadau, a bod yn barod i rannu eu gwybodaeth newydd â’r diwydiant drwy wneud cyflwyniadau gerbron grwpiau o ffermwyr.