Pwysigrwydd cael y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gywir, yn hanfodol bwysig, meddai UAC

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, wedi ysgrifennu at bob aelod o’r Undeb yn annog unigolion a busnesau i ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriad Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn lleisio barn.

“Does dim ond angen i ni edrych ar ystadegau’r Arolwg Busnes Fferm i ddeall arwyddocâd cyllid amaethyddol a datblygu gwledig i’n cadwyni cyflenwi bwyd a’r economi wledig ehangach.

“Dyma’r trydydd ymgynghoriad a’r olaf ar gynigion yr CFfC ac mae’r pwysau i’w gael o’n gywir, yn hanfodol bwysig i’r diwydiant.

“Rydym wedi siarad yn uniongyrchol â thros 1500 o ffermwyr yn ein cyfarfodydd sirol ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf. Ar ben hynny, mae ein tîm o arbenigwyr amaethyddol wedi bod yn pwyso am newidiadau a diwygiadau i gynlluniau Llywodraeth Cymru dros sawl blwyddyn. Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol bwysig i amaethyddiaeth Cymru a’i dyfodol 

Mae modelu ar effeithiau economaidd posibl y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r ymgynghoriad yn awgrymu:

  • gostyngiad mewn incwm busnesau fferm o hyd at £199 miliwn
  • gostyngiad o £125 miliwn mewn allbwn ffermydd
  • 122,000 yn llai o unedau da byw
  • gostyngiad o 11% mewn gofynion llafur ar ffermydd. 

“Y gwir amdani yw, os bydd y cynllun yn parhau yn ei ffurf bresennol, ac os yw’r adroddiad modelu’n gywir, bydd y nifer sy’n manteisio ar y cynllun yn fychan iawn a bydd pawb ar eu colled – ffermwyr Cymru, yr amgylchedd, y cyhoedd ac yn y pen draw, Llywodraeth Cymru hefyd.

“Mae yna bryder gwirioneddol, hyd yn oed mewn sefyllfa lle nad yw taliadau’r cynllun newydd yn agos at wneud iawn am golli Cynllun y Taliad Sylfaenol, na fydd gan rai busnesau fferm unrhyw ddewis heblaw cymryd rhan yn yr CFfC. Bydd hyn, heb os, yn rhoi pwysau pellach ar lwyth gwaith ac iechyd meddwl ffermwyr.

“Rhaid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy fod yn hygyrch i bawb, a darparu sefydlogrwydd hirdymor i fusnesau ffermio a’r economi wledig ehangach sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth. Mae angen i’r CFfC ddarparu incwm ystyrlon i ffermwyr ac sy’n tanategu pwysigrwydd cadwyn gyflenwi bwyd o ansawdd, a gynhyrchir yma yng Nghymru,” meddai Ian Rickman. 

Daw’r ansicrwydd ynglŷn â dyfodol cymorth ariannu amaethyddol yng Nghymru yn erbyn cefndir o achosion parhaus o’r diciâu mewn gwartheg a cholli miloedd o wartheg o’r diwydiant bob blwyddyn. Mae hyn ar ben polisi Llywodraeth Cymru o ymdrin â rheoliadau llygredd biwrocrataidd a fydd yn costio dros £400 miliwn i’r diwydiant gydymffurfio â nhw.

“Gwnaeth y cyfarfodydd diweddar ym marchnadoedd da byw Y Trallwng a Chaerfyrddin ddatganiad clir am y rhwystredigaeth a deimlir gan lawer o ffermwyr. Roedd yn dangos y pryder ynglŷn â'r sefyllfa bresennol a chyfeiriad polisi amaethyddol yma yng Nghymru i’r dyfodol.

“Fel ffermwr fy hun dwi’n deall y rhwystredigaethau a welwyd yn y cyfarfodydd. Ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd a bod llais ffermwyr Cymru yn cael ei glywed gan y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau yng Nghymru ac yn San Steffan. Bydd y ddwy undeb amaethyddol yn cyfarfod â’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, i drafod y ffordd ymlaen.

“Fodd bynnag, mae’n hanfodol bwysig bod pob unigolyn a busnes a effeithir gan y cynigion hyn yn ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad erbyn 7 o Fawrth. Mae’n gwbl hanfodol ein bod ni gyd yn gwneud hynny.

“Awgrymwn hefyd ein bod, fel amaethwyr, yn cysylltu â’ch cynrychiolwyr etholedig lleol ar bob cyfle, boed yn gynghorwyr sir, yn Aelodau Senedd lleol a/neu ranbarthol neu’n Aelodau Seneddol yn San Steffan.

“Mae angen i ni sicrhau eu bod nhw hefyd yn clywed eich llais a’ch pryderon er mwyn sicrhau ein bod ni’n parhau i ddwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r cynllun mewn ffordd sy’n hybu diwydiant amaeth cynaliadwy yng Nghymru ac yn ei ddiogelu i’r dyfodol.”

Diwedd

Ymatebwch i ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yma:

Cymraeg: https://www.fuw.org.uk/index.php/cy/sfs-consultation-cy 

English: https://www.fuw.org.uk/index.php/en/sfs-consultation