Gall opsiynau arall yn lle plannu coed gyflawni gostyngiadau cyfwerth mewn allyriadau, meddai UAC wrth gynhadledd Plaid Cymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi amlinellu sut gall opsiynau amgen i blanu coed gyflawni gostyngiadau cyfwerth mewn allyriadau tra hefyd yn cyflawni ystod eang o fuddion yng nghynhadledd Plaid Cymru, a gynhaliwyd ddydd Gwener 6 a dydd Sadwrn 7 Hydref 2023, yn Aberystwyth.

Wrth gynnal digwyddiad ymylol ddydd Gwener, 6 Hydref 2023, tynnodd yr Undeb sylw at y ffaith mai un o’r ffyrdd y gellir lleihau allyriadau carbon net Cymru yw planu  coed

Wrth gyflwyno’r ystadegau diweddaraf, tynnodd UAC sylw at y ffaith bod cynhyrchiant ynni Cymru yn gyfrifol am 10,953,000 tunnell o allyriadau CO2 yn 2019. I wrthbwyso hyn, pwysleisiodd swyddogion yr Undeb, fe fyddai angen plannu coed ar tua 1.1 miliwn hectar o dir.

“Pe bai holl allyriadau presennol Cymru yn cael eu gwrthbwyso gan blannu coed, byddai hyn yn golygu bod angen plannu coed ar arwynebedd o tua dwywaith maint Cymru,” meddai Llywydd UAC Ian Rickman.  Mae nifer o opsiynau arall y gellir eu gweithredu ar y fferm i gyflawni'r gostyngiadau cyfwerth mewn allyriadau, ac mae gan lawer o’r rhain fanteision niferus, nid yn unig i ffermydd unigol ond hefyd i gymdeithas Cymru yn gyffredinol, ychwanegodd Mr Rickman.

“Gallai’r rhain gynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy, mathau arall o ddal a storio carbon neu wella effeithlonrwydd cynhyrchu da byw

“Wrth i ni symud tuag at gam ymgynghori terfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, rydym am weld cynllun sy’n edrych ar ffermio a newid hinsawdd ar y cyd yn hytrach nag ar wahân. Er enghraifft, bydd plannu coed ac allforio ein cynhyrchiant bwyd i wledydd sydd ag allyriadau a safonau amgylcheddol llawer gwaeth na Chymru yn gwneud pethau’n waeth ar lefel fyd-eang mewn gwirionedd.”

Clywyd hefyd, ar gyfer nifer fawr o ffermydd, byddai bodloni’r gofyniad o orchudd coed o 10% yn effeithio’n ddifrifol ar eu sefyllfa gyllidol a’u gallu i gynhyrchu bwyd, tra byddai bodloni gofyniad o’r fath yn amhosibl i rai categorïau o ffermydd. O dan y cynigion presennol, byddai methu cyflawni’r targed o 10% yn eu hatal rhag gallu cael mynediad at unrhyw fath o gymorth drwy'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

“Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod mathau amrywiol o ffermydd a chategorïau tir lle na fyddai’n bosibl cyrraedd y trothwy hwn.  Mae angen llawer mwy o gonsesiynau gan y Llywodraeth os yw nifer fawr o fusnesau fferm am osgoi effeithiau difrifol ar eu cynlluniau busnes.

“Mae plannu coed yn un o nifer o ffyrdd y gellir lleihau allyriadau carbon net Cymru. ‘Rydym am weld Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd â hyblygrwydd fel y gall ffermwyr ymgysylltu â chynllun sy’n gweithio i’w busnesau ac yn cyflawni’r canlyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn chwilio amdanynt,” meddai Llywydd yr Undeb.

Hefyd, tynnodd UAC sylw at y ffaith bod cynlluniau Llywodraeth Cymru yn anelu at weld Cymru’n diwallu 100% o’i hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Fodd bynnag, wrth i’r galw am gerbydau trydan ac opsiynau arall i danwydd ffosil gynyddu, mae’r galw am drydan hefyd yn cynyddu.

“Amcangyfrifir y bydd hyn yn cynyddu’r galw am drydan yn y DU o tua 10% o gynhyrchiant presennol y DU erbyn 2030, gan godi i rhwng 20% ​​a 33% erbyn 2050.  Fe fyddai cynyddu cynhyrchiant hydrogen i’w ddefnyddio fel opsiwn arall i danwydd ffosil mewn rhai cerbydau hefyd yn cynyddu’r galw am drydan (a ddefnyddir i greu hydrogen),” meddai Pennaeth Polisi UAC Dr Nick Fenwick.

Clywyd hefyd fod cyfraniad cyflenwad ynni i allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU a Chymru wedi gostwng 70% a 55% yn y drefn honno rhwng 1990 a 2020, gydag ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar dir fferm yn chwarae rhan ganolog yn y gostyngiadau hyn.

Ers i Dariffau Cyflenwi Trydan gael eu dileu yn 2019, mae buddsoddiad ffermydd mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy wedi arafu’n sylweddol. Mae cynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn hollbwysig, nid yn unig i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond hefyd i sicrwydd ynni Cymru a’r DU – mae pwysigrwydd hynny wedi’i amlygu gan ryfel Rwsia yn erbyn Wcráin.

Clywyd hefyd y gall ychydig o dir, weithiau’n ddibwys i gynhyrchiant y fferm, gael eu datblygu ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy fyddai yn eu tro’n gwrthbwyso allyriadau carbon yn fwy effeithlon na phlannu coed.  Fe fyddai datblygiadau o’r fath yn arwain at fwy o sicrwydd ynni i ffermydd, cymunedau a Chymru gyfan.

“Er bod yn rhaid i gynnydd mewn plannu coed fod yn rhan o’r ateb i newid hinsawdd, mae UAC yn credu bod y gofyniad gorchudd coed arfaethedig o 10% sydd i’w gyflwyno o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy o 2025 yn arf brwnt sy’n methu â chydnabod rôl mesurau lliniaru arall a fyddai’n cael llawer llai o effaith ar ffermydd a chynhyrchu bwyd yng Nghymru gan hefyd arwain at fanteision ehangach i Gymru,” ychwanegodd Gareth Parry, Uwch Swyddog Polisi a Chyfathrebu UAC.