Ambiwlans Awyr Cymru yn derbyn gwobr am wasanaethau i amaethyddiaeth yng Nghymru gan UAC

[caption id="attachment_7180" align="aligncenter" width="300"]Ambiwlans Awyr Cymru yn derbyn y wobr gan Lywydd UAC Glyn Roberts. Ambiwlans Awyr Cymru yn derbyn y wobr gan Lywydd UAC Glyn Roberts.[/caption]

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cydnabod pa mor bwysig yw Ambiwlans Awyr Cymru i amaethyddiaeth drwy gyflwyno gwobr allanol yr Undeb am wasanaethau i amaethyddiaeth iddynt.

Yn flynyddol, ar gyfartaledd, mae’r elusen yn ymdrin â 20 achos o ymosodiadau anifeiliaid a 200 o ddigwyddiadau amaethyddol, sy'n cynnwys cwympo drwy doeon ysguboriau a chael damweiniau’n ymwneud a pheiriannau.

Mae'r gymuned amaethyddol yn derbyn cymorth 18 gwaith y mis ar draws Cymru, sy’n gyfrifol am oddeutu 8% o gyfanswm yr holl lwyth gwaith.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: "Heddiw, rydym yn diolch yn swyddogol i'r Ambiwlans Awyr Cymru am y gwasanaeth achub bywyd maent yn ei ddarparu bob dydd o'r flwyddyn ac yn eu hanrhydeddu gyda Gwobr Allanol UAC am Wasanaethau i Amaethyddiaeth.

"Mae'r gwasanaeth a ddarperir gan yr Ambiwlans Awyr Cymru yn gwbl hanfodol ar gyfer y diwydiant amaethyddol a gall pawb sy'n byw neu'n ymweld â Chymru wledig fod angen sylw meddygol ar frys.

"O'i chanolfannau awyr yn Llanelli, Caernarfon a'r Trallwng, gall ambiwlans awyr fod yn unrhyw le yng Nghymru o fewn 20 munud o dderbyn galwad brys. Mae'r amseroedd ymateb cyflym, y gallu i gyrraedd lleoliadau anodd, a hedfan cleifion i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer y salwch neu’r anaf, yn cynyddu’r siawns o’r claf yn goroesi ac o gymorth gyda’r proses o wella.

Ers cael ei lansio ar Ddydd G?yl Dewi yn 2001, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi gwneud mwy na 24,000 o deithiau hyd yn hyn, gyda phob taith yn costio tua £1500.

Lansiodd yr elusen ei phedwerydd hofrennydd yng Nghaerdydd yn 2016 a hynny’n bwrpasol  fel ambiwlans awyr ar gyfer plant, sy’n darparu gwasanaeth trosglwyddo newydd-anedig a phediatrig hollbwysig i gleifion ieuengaf Cymru.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru’n llwyr ddibynnol ar roddion elusennol i godi dros £6 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn hedfan dros Gymru.  Nid yw'r elusen yn derbyn unrhyw arian gan y loteri genedlaethol na'r llywodraeth.

Yn 2015 cyflwynodd Ambiwlans Awyr Cymru feddygon sy’n hedfan ar fwrdd yr hofrenyddion trwy gynllun newydd gyda'r GIG, sy'n golygu y gall yr elusen ddarparu triniaethau mwy datblygedig, gan gynnwys trallwysiadau gwaed ac anaesthetig.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: "Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Undeb Amaethwyr Cymru am eu cefnogaeth ragorol. Rydym yn derbyn llawer iawn o gefnogaeth gan ffermwyr am ein gwaith, ac mae hyn yn ein galluogi ni i fod o gymorth i bobl ledled Cymru.

"Mae tua 120 o'n teithiau bob blwyddyn yn rai amaethyddol. Anafiadau amaethyddol sy’n dueddol o fod y rhai mwyaf difrifol, ac sydd angen anaesthetig, llawdriniaeth y frest neu drallwysiadau gwaed yn y fan a’r lle.

"Heb y rhoddion caredig a chefnogaeth a dderbyniwn, ni fyddem yn gallu cadw ein hofrenyddion i hedfan. Felly, hoffem ddiolch i UAC am eu cefnogaeth.”