Mae cynrychiolwyr Undeb Amaethwyr Cymru wedi cael cyfarfod adeiladol gyda Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths i amlygu a thrafod camau gweithredu y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru effeithiau rhyfel Rwsia ar y Wcráin.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts:
“Ysgrifennodd UAC at y Gweinidog ar 4 Mawrth yn amlygu effeithiau’r rhyfel ac i ofyn am drefnu cyfarfod bord gron brys gyda rhanddeiliaid.
“Mae'r rhyfel yn cael, a bydd yn parhau i gael effaith mawr ar ein cadwyni cyflenwi bwyd a chostau mewnbwn. Mae’r DU yn dibynnu ar Wcráin a Rwsia am tua thri deg y cant o’i chorn yn ogystal â nifer o gynhwysion eraill a ddefnyddir ar gyfer porthiant anifeiliaid, ac mae gwrtaith bellach yn cyrraedd tua mil o bunnoedd y dunnell.
“Ni fydd yr effeithiau gwirioneddol i’w teimlo yn y DU am fisoedd wrth i gynhyrchiant bwyd Cymru a byd-eang ostwng oherwydd prinder a phrisiau mewnbwn anfforddiadwy.”
Er bod y camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru effeithiau o’r fath yn gyfyngedig, bydd cynyddu cynhyrchiant cnydau a phorthiant yng Nghymru eleni yn hollbwysig ar gyfer gaeaf 2022-23 ac ymhell i mewn i 2023 a thu hwnt.