Cytundeb Seland Newydd yn dangos parodrwydd Llywodraeth y DU i aberthu ffermio a diogelwch y cyflenwad bwyd

Mae’r sêl fendith ar gytundeb masnach â Seland Newydd yn dangos parodrwydd Llywodraeth y DU i danseilio ffermio a diogelwch cyflenwad bwyd y DU am gyfnewid o fuddion dibwys i’r economi, meddai Undeb Amaethwyr Cymru.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad ddydd Mercher (20 Hydref) bod cytundeb masnach rhwng y DU a Seland Newydd wedi’i gytuno mewn egwyddor dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: “Mae ffigurau Llywodraeth y DU ei hun yn dangos bod buddion economaidd y cytundeb yma'n fach iawn. Nid yw hynny'n syndod o ystyried bod poblogaeth Seland Newydd yn is na phoblogaeth yr Alban.

“Yn amlwg, Seland Newydd fydd yn elwa fwyaf o’r cytundeb yma gan ei bod yn caniatáu iddynt gynyddu eu hallforion bwyd i'r DU, gan gynrychioli bygythiad mawr i ffermwyr Cymru a Phrydain Fawr yn ogystal â diogelwch ein cyflenwad bwyd.”

Ym mlwyddyn 1 byddai'r cytundeb yn caniatáu cynnydd o 30% yn y cyfanswm o gig oen Seland Newydd y gellir ei fewnforio i'r DU yn ddi-doll (hy heb dariffau), gyda'r ffigur hwn yn codi i 44% ar ôl pum mlynedd, yna cynnydd pellach ac yn y pen draw, cael gwared ar yr holl derfynau ar ôl 15 mlynedd.

Mae cynnydd mawr yng nghyfanswm cig eidion, menyn a chaws hefyd wedi'u cynnwys yn y cytundeb.

“Nid yw’r cytundeb hon, ynghyd â chytundeb fasnach Awstralia a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, yn gadael fawr o amheuaeth bod Llywodraeth y DU yn tanseilio amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd a diogelwch ein cyflenwad bwyd yn fwriadol neu’n ddiofal.

“Mae cael gwared ar gymorth fferm a chynnydd mewn biwrocratiaeth a rheoliadau ar gyfer ffermwyr y DU ar yr un pryd y mae cytundebau masnach yn cael eu taro gyda gwledydd sydd â safonau rheoleiddio llawer is yn ychwanegu at yr argraff hon.”

Dywedodd Mr Roberts y byddai UAC yn parhau i rybuddio Aelodau Seneddol ac Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi am beryglon cytundebau masnach Seland Newydd a chytundebau eraill, gan eu hannog i weithredu er budd eu hetholwyr a'n cenedl pan ddaw i benderfyniadau yn Senedd.