Digwyddiad elusennol Maenclochog yn mynd i fod yn “Gwd Thing”

Mae ffermwyr Sir Benfro yn edrych ymlaen at gordyn bêls, cap stabal, rigger boots a mwstash, gan fod y Welsh Whisperer yn dod i Faenclochog ar gyfer cyngerdd elusennol arbennig.

Mae'r dyn sy’n prysur wneud enw iddo’i hun fel perfformiwr, cyflwynydd radio a phersonoliaeth deledu boblogaidd yn ymuno â changen Sir Benfro o Undeb Amaethwyr Cymru i godi arian ar gyfer dwy elusen leol anhygoel, sef DPJ Foundation a Farms For City Children yn Nhŷ Ddewi.

Gall y rhai sy'n ymuno â'r noson, sy'n dechrau am 7.30yh, nos Wener 11 Hydref yn Neuadd Gymunedol Maenclochog, edrych ymlaen at y caneuon adnabyddus fel Loris Mansel Davies, Bois y JCB, Bois y Loris, Classifieds y Farmers Guardian a Ni'n Belo Nawr.

Dywedodd Swyddog Gweithredol FUW Sir Benfro, Rebecca Voyle: “Rydym yn gyffrous iawn i gynnal y digwyddiad codi arian arbennig hwn ar gyfer ein helusennau lleol. Mae'n argoeli i fod yn noson hwyliog o gerddoriaeth a heb os ychydig o ddawnsio a gobeithio y gall llawer ohonoch ymuno â ni.”

Pris y tocynnau yw £15 yr un sy’n cynnwys pryd dau gwrs, ac mae’n rhaid eu prynu ymlaen llaw.

I archebu'ch tocyn neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r sir ar 01437 762 913 neu e-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.