Neges Nadolig y Llywydd 2016

[caption id="attachment_7425" align="aligncenter" width="200"]Glyn Roberts. Glyn Roberts.[/caption]

Roedd pwysigrwydd 2016 o ran penderfyniad y DU i adael yr UE yn dominyddu negeseuon y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ym mhob sector, o ofal cymdeithasol i’r diwydiant adeiladu, bancio i fferylliaeth.

Ond mae’r goblygiadau ar gyfer amaethyddiaeth yn llawer mwy pell gyrhaeddol nag unrhyw sector arall. Ers degawdau, mae aelodaeth o’r UE wedi bod yn faich ar ffermwyr a’r gadwyn gyflenwi bwyd oherwydd y gwaith papur cynyddol, a hynny’n fwy na unrhyw ddiwydiant arall, gan arwain at nifer o ffermwyr yn penderfynu eu bod nhw wedi cael digon ar Fehefin 23 2016.

Ond ar y llaw arall, diogelwyd y farchnad yn erbyn cynhyrchion rhatach tu allan i'r UE a oedd yn cael eu cynhyrchu i safonau is o lawer, a chyllideb amaethyddiaeth a datblygu gwledig yr UE llawer mwy na'r hyn oedd yn cael ei neilltuo ar gyfer unrhyw sector arall.

Wrth i wleidyddion y DU drafod a dadlau dros nifer o sefyllfaoedd posib ar ôl Brexit, gwelir llawer ein rhyddid i wneud penderfyniadau heb ymyrraeth gan aelodau sydd o blaid ffermio UE fel Ffrainc yn gyfle i dorri cymorth ar gyfer ffermio ac agor ein marchnadoedd i fwyd rhatach.

Yr un mor uchel eu cloch yw'r rhai sy’n dadlau am gael mwy o reolau a chyfyngiadau fferm wrth anwybyddu realiti economaidd a'r rhagrith a pheryglon o wneud hyn heb fynnu mwy o amddiffyniad yn erbyn y farchnad sydd â chynhyrchion sydd ddim yn amodol a’r un cyfyngiadau.

Yn y cyfamser, mae’r rhai sy’n amlygu'r niwed y mae polisïau o'r fath yn cael ar ein cymunedau gwledig yn brin, ac nid gor-ddweud yw dweud bod y diwydiant ffermio a’n heconomïau gwledig yn wynebu'r her fwyaf ers yr Ail Ryfel Byd.

Oherwydd y peryglon hyn a phleidlais Brexit, roedd yr angen am asesiad priodol o economeg amaethyddiaeth Cymru a chymunedau gwledig yn ganolog i neges maniffesto UAC, a lansiwyd yn Ffair Aeaf 2015.

Ers hynny, mae'r Undeb wedi bod ar flaen y gad o ran ymgymryd â gwaith o'r fath, ac fel aelodau o Gr?p Fframwaith Strategol Cymru rydym wedi cydweithio ag eraill wrth gasglu a dadansoddi gwybodaeth er mwyn nodi a mesur y risgiau a'r cyfleoedd a gynrychiolir gan bolisïau ar ôl Brexit.

Yn y cyfamser, ffocws ein hymgyrch #AmaethAmByth yw pwysleisio rhan hanfodol amaethyddiaeth yng Nghymru yn newid yn yr hinsawdd, cynhyrchu bwyd, bioamrywiaeth ac economeg ac yn ein cyfarfodydd rheolaidd â Gweinidogion Llywodraeth Cymru a'r DU ag eraill sydd â diddordeb.

Fel rhan o'r ymgyrch honno, rydym wedi cynnal ymweliadau â ffermydd i wleidyddion yn rheolaidd, a mynychwyd y rhain gan fusnesau bach a mawr sy’n dibynnu ar y diwydiant er mwyn dangos cymhlethdod a phwysigrwydd economaidd y cadwyni cyflenwi gyda ffermwyr yn allweddol, ac rwyf am gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi cynnal a mynychu’r digwyddiadau hyn.

Er bod y gwaith o bwysleisio pwysigrwydd hyn i'r rhai y tu allan i'r diwydiant yn parhau, rydym hefyd wedi ymgynghori yn fewnol gydag aelodau ar natur polisïau ar ôl Brexit, gan gytuno ar yr egwyddorion allweddol cyffredinol a ddylai llywio llywodraethau'r DU o ran trafodaethau Brexit gyda’r UE a rhwng ardaloedd datganoledig y DU.

Yn y cyfamser, mae staff UAC ar draws Cymru wedi parhau i ddarparu gwasanaethau pwysig ar gyfer aelodau megis cymorth, cyngor ac arweiniad, yn ogystal â lobio materion megis TB a Parthau Perygl Nitradau - oll yn faterion sydd wedi cael eu trawsnewid yn llwyr oherwydd y penderfyniadau mewn perthynas â Brexit dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.

Wrth i’r gwleidyddion sydd o blaid Ewrop ddechrau cydnabod y peryglon o wfftio'r pryderon diffuant yngl?n â natur yr UE, mae nifer o wleidyddion o blaid gadael Ewrop yn gweld bod byd o wahaniaeth rhwng yr addewidion a wnaethpwyd cyn y refferendwm a’r byd go iawn o drafodaethau masnach, gwleidyddiaeth fyd-eang ac economeg.

Gyda dyfalu o'r hyn a allai Brexit olygu o ran amserlenni, cytundebau masnach, a deddfwriaeth sy'n newid yn ddyddiol, rydym yn wynebu lefel o ansicrwydd a risg nas gwelwyd ers cenedlaethau.

Gwn am lawer yn eu harddegau a'u hugeiniau sy’n siomedig iawn gyda chanlyniad y refferendwm a beth fydd goblygiadau hyn iddynt hwy a dyfodol ein cefn gwlad.

Pa well cymhelliant sydd yna i ni fel diwydiant a gwleidyddion ar bob ochr i'r ddadl i weithio er mwyn sicrhau bod dyfodol disglair ar gyfer y rhai a fydd yn cymryd ein lle yn y degawdau i ddod.

Mae gennym gyfrifoldeb i gynnig atebion, nodi ein gweledigaethau, ac ymladd am bolisïau a fydd yn gwneud dyfodol Cymru tu allan i'r UE yn un gwell, ac mae UAC wedi ymrwymo i wneud hynny fel llais annibynnol ar gyfer ffermio yng Nghymru.

Dymunaf Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch.